Arianrhod

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad a gysylltir yn bennaf â chwedl Math fab Mathonwy, y Bedwaredd o Geinciau'r Mabinogi, yw Arianrhod (ffurf amgen, Aranrhod) neu Arianrhod ferch Dôn. Credir ei bod yn dduwies Geltaidd yn wreiddiol. Cyfeirir ati fel "ferch Beli" a "ferch Dôn". Roedd hi'n chwaer i'r dewin Gwydion a'i frawd Gilfaethwy ac yn fam i Ddylan Eil Don a'r arwr Lleu Llaw Gyffes.

Ei henw[golygu | golygu cod]

Ceir dwy ffurf ar ei henw, sef Arianrhod (Cymraeg Canol Aryanrot) ac Aranrhod (Aranrot). Mae ei ystyr yn dibynnu ar ba ffurf ar y ddwy elfen, sef arian/aran a rhod/rhawd, a ddewisir. Gallai rhod fod yn ffurf ar rhawd "mwnt" (cf. Gwyddeleg ráth), ond ni cheir enghraifft o'r ffurf Arianrhawd yn unman a cheir llawn cystal synnwyr o dderbyn rhod "olwyn" (cf. cyfeirio at "y rhod yn troi", sef Olwyn Ffawd). Ymddengys mai Aranrhod yw'r ffurf gynharaf ond mae Arianrhod yn fwy cyffredin. Ceir yr enw personol am ferch Ariannell yn Gymraeg Canol (cf. Pentre Ariannell ym Môn). Tynnodd W. J. Gruffydd sylw at Argentoratum, hen enw Celtaidd Strasbourg.[1]

Chwedl Math fab Mathonwy[golygu | golygu cod]

Yn y chwedl mae Gwydion a Gilfaethwy yn twyllo Math er mwyn i Gilfaethwy gael cysgu efo Goewin, morwyn Math. Roedd yn rhaid i Fath orffwys a'i draed yn arffed morwyn pan na fyddai'n rhyfela. Ar ôl dychwel i Gaer Dathyl, bu rhaid i Math gael morwyn newydd gan nad oedd Goewin yn forwyn bellach. Cynghorodd Gwydion iddo ddewis Arianrhod, ei chwaer. I sicrhau mai morwyn oedd hi, gofynnodd Math iddi gamu dros ei hudlath ef. Wrth wneud hyn gadawodd fachgen mawr penfelyn, ac bu iddi redeg ymaith mewn cywilydd, ond ar gyrchu'r drws gadawodd rywbeth bychan cyn mynd. Cymerodd Gwydion ef cyn i neb gael ail olwg arno, ei blygu mewn llen sidanwe a'i guddio mewn cist fechan wrth droed ei wely. Yn y cyfamser gwnaeth Math fedyddio'r bachgen mawr penfelyn gyda'r enw Dylan. Cyn gynted ag y bedyddiwyd ef fe gyrchodd y môr ac "fe gafodd natur y môr". Oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Ail Don. Wedyn clywodd Gwydion sgrech yn ei gist, ac o'i hagor darganfu fab bychan (y "rhywbeth" hynny a adawyd gan Arianrhod). Rhoddwyd ef allan i'w fagfam hynod, yna magwyd ef yn y llys gan ei ewythr Gwydion.

Aeth Gwydion gyda'r bachgen a chyrchu Caer Arianrhod i gyflwyno'r mab i'w fam. Ond digiodd Arianrhod a dweud "O ŵr, beth sydd arnat ti, fy nghywilyddio i, ac erlid fy nghywilydd a'i gadw cyhyd â hyn?". Tyngodd Arianrhod dynged ar ei mab "na chaiff enw hyd oni chaiff hynny gennyf i".

Wrth aber Afon Menai, ar draeth y Foryd, tyfai llawer o hesg. Trwy hud adeiladodd Gwydion long ohonynt. Gwnaeth hefyd ledr hardd, a’i dorri’n barod i wneud esgidiau. Yna, newidiodd ei wedd ei hun a’r bachgen trwy swyn a rhoi dillad newydd iddynt fel yr ymddangosent fel dau grydd. Hwyliodd y ddau yn y llong hyd tua chaer Arianrhod ac angori wrth y gaer. Bu’r ddau yn ddiwyd yn gwneud esgidiau nes i rai o forynion Arianrhod eu gweld a sylwi pa mor hardd oedd y lledr. Gwnaeth Gwydion y pâr yn rhy fawr a dychwelwyd hwy, a gofyn iddo wneud pâr arall. Gwnaeth yr ail bâr yn fwriadol rhy fach. Dychwelwyd y rhain eto. "Rhaid i’r dywysoges ddod yma i gael mesur ei throed," meddai Gwydion wrth y morynion.

Trannoeth daeth Arianrhod ar fwrdd y llong i gael mesur ei throed ac nid adnabu Gwydion na’i mab. Tra mesurai Gwydion ei thraed disgynnodd dryw bach ar hwylbren y llong. Taflodd y bachgen ato a tharo'r dryw yn ei goes. Chwarddodd Arianrhod ac meddai, "Duw a ŵyr, â llaw gelfydd y trawodd yr un golau ef" a chyda hynny enillodd y mab ei enw: Lleu Llaw Gyffes.

Digiodd Arianrhod a thyngu tynged arall arno, sef "...na chaiff arfau fyth hyd oni wisgaf i hwy amdano". Ond unwaith eto trwy gyfrwystra llwyddodd Gwydion i dwyllo Arianrhod a chael ei chwaer i wisgo arfau am Leu. Yna tyngodd Arianrhod dynged arall arno, sef "na chaiff fyth wraig o'r genedl sydd ar y ddaear hon yr awr hon".

Wedi clywed hyn aeth Gwydion at Fath, mab Mathonwy, am help a chymerodd Gwydion a Math flodau’r derw, banadl ac erwain a thrwy hud lluniwyd y ferch dlysaf yn y byd o’r blodau. Galwyd hi Blodeuwedd, ac yn fuan priodwyd hi a Lleu ac aeth y ddau i fyw i Fur y Castell ger Harlech.

Cyfeiriadau eraill[golygu | golygu cod]

Dyna'r cyfan a ddywedir am Arianrhod yn y Pedair Cainc, ond ceir ambell cyfeiriad arall ati yng ngwaith y beirdd. Cyfeiria at ei harddwch mewn cerdd o'r enw "Cadair Cyrridfen" ("Cadair Ceridwen") yn Llyfr Taliesin. Mewn rhai testunau diweddarach cyfeirir at "garchar Arianrhod".

Ceir un o'r ychydig gyfeiriadau at Arianrhod yng ngwaith y beirdd mewn cerdd gan Lewys Môn (fl. 1485–1527) i wraig anhysbys a chyfeiriad at Gaer Arianrhod mewn marwnad i Elin Bwlclai o Fôn. Yn ôl Lewys, oedd yn hyddysg yn yr hen chwedlau, Arianrhod ac nid Goewin oedd y forwyn a ddaliai draed Math yn ei harffed, sy'n awgrymu fod y bardd yn gyfarwydd â fersiwn amgen o chwedl Math fab Mathonwy sydd ar goll bellach:

Mae 'nghwyn am forwyn yn fwy
no Math Hen fab Mathonwy.
Braich un ddi-wair, brechwen, ddoeth,
fu'i obennydd ef beunoeth:
Arianrhod, — ni bu'r unrhyw —
ni byddai Fath hebddi fyw.[2]

Cyfeirir at Arianrhod mewn tri o Drioedd Ynys Prydain. Fe'i henwir fel merch Beli Mawr a mam Gwenwynwyn a Gwanar, meibion Lliaws fab Nwyfre yn y triawd "Tri Chyfor a aeth o'r Ynys hon"; dyma'r unig gyfeiriad at Arianrhod yn y cyswllt hwn (enwau gwneud yw "Lliaws" a "Gwanar"; "awyr" neu "nef" yw ystyr Nwyfre). Mae triawd arall yn cyfeirio ati yng nghyd-destun Gwydion yn cael arfau ganddi i Leu Llaw Gyffes. Yn olaf, ond nid lleiaf, mae hi'n un o "Dri Gwenriain Ynys Prydain" (Tair Morwyn Deg Ynys Prydain), gyda Creirwy ferch Ceridwen a Gwen ferch Cywryd fab Crydon.[3]

Mae Caer Arianrhod, enw llys Arianrhod yn chwedl Math, yn ynys fechan isel ym Mae Caernarfon gyferbyn i Ddinas Dinlle. Diau ei bod i'w dosbarthu gyda'r enghreifftiau eraill o geyrydd ac ynysoedd arallfydol ym mytholeg y Celtiaid. Mae'r cytser Corona Borealis hefyd yn dwyn yr enw "Caer Arianrhod" yn Gymraeg. Cofir fod "Caer Gwydion", cartref arallfydol ei brawd Gwydion, yn enw ar y Llwybr Llaethog a bod gan y dduwies Dôn hithau gysylltiad â'r sêr hefyd gan fod "Llys Dôn" yn enw ar y cytser Cassiopeia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ifor Williams (gol.), Pedeir Ceinc y Mabinogi, tud. 269-70.
  2. Eurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn (Caerdydd, 1975), cerdd XCVII, llau. 1-6.
  3. Trioedd Ynys Prydein, trioedd 35, 67, 78.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991)
  • W. J. Gruffydd, Math vab Mathonwy (Caerdydd, 1928)
  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Ceinc y Mabinogi (Caerdydd 1930; sawl arg. arall)