Llyn y Morynion

Oddi ar Wicipedia
Llyn y Morynion
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFfestiniog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr400 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.963728°N 3.880915°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH7350042200 Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y llyn ger Ffestiniog yw hon. Am y llyn yn Ardudwy gweler Llyn y Morynion (y Rhinogydd).

Llyn bychan yn y bryniau tua dwy filltir a hanner i'r dwyrain o bentref Ffestiniog, Gwynedd, yw Llyn y Morynion. Yn ogystal â bod yn llyn deniadol mewn safle hardd cysylltir Llyn y Morynion â dwy chwedl llên gwerin ddiddorol.

Llyn y Morynion a'r Garnedd o'r de

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r llyn yn mesur tua chwarter milltir ar draws ac yn sefyll 400 metr i fyny. Yn edrych i lawr arno mae clogwynnau mawr Y Garnedd ar ben dwyreiniol cadwyn Manod Mawr. I'r gogledd mae Llyn Conwy ac i'r dwyrain mae gwlybdir eang Y Migneint yn ymestyn i gyfeiriaid Llyn Celyn a'r Bala. I'r de mae Afon Cynfal yn rhedeg i Gwm Ffestiniog. Mae'r tir o gwmpas y llyn yn wlyb dan draed gyda llawer o rug a cherrig. Mae'n llyn da i bysgota. O'i ben gorllewinol mae ffrwd fechan yn rhedeg allan ohono i aberu yn Afon Dwyryd.

Chwedlau[golygu | golygu cod]

Blodeuwedd[golygu | golygu cod]

Ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi, Math fab Mathonwy, cysylltir y llyn â Blodeuwedd a'i morwynion. Ar ddiwedd y chwedl adnabyddus honno mae Gwydion a Lleu Llaw Gyffes yn ceisio dial ar Flodeuwedd a Gronw Pebr. Gwydion sy'n mynd ar ôl Blodeuwedd (gwaith ei law ei hun, a greuwyd o flodau). Mae hi'n ffoi i'r bryniau o'i llys ym Mur Castell (Tomen y Mur heddiw, ger Trawsfynydd). Mae hi a'i morwynion yn croesi Afon Cynfal i ffoi i lys arall ar y mynydd. Gan fod arnyn nhw gymaint ofn maen' nhw'n edrych dros ei hysgwyddau ac felly ddim yn gweld y llyn. Mae'r morwynion i gyd yn syrthio i'r llyn ac yn boddi:

kyrchu llys a oed ar y mynyd. Ac ni wydyn gerdet rac ouyn, namyn ac eu hwyneb tra eu keuyn. Ac yna ni wybuant yny syrthyssant yn y llyn ac y bodyssant oll eithyr hi e hunan.[1]

Gwŷr Ardudwy[golygu | golygu cod]

Yn ôl chwedl arall mae'r llyn yn cael ei enw er cof am ferched a gipiwyd o Ddyffryn Clwyd gan griw o lanciau Ardudwy. Roeddyn nhw bron wedi cyrraedd diogelwch yn Ardudwy pan ddaliodd rhyfelwyr Clwyd i fyny. Lladdwyd rhyfelwyr ifainc Ardudwy i gyd. Erbyn hynny roedd y merched o Glwyd yn eu caru. Yn hytrach na diolch eu hachubwyr torrasant i wylo a neidio yn y llyn lle boddasant. Mae'r enw 'Beddau Gwŷr Ardudwy' ar lecyn ger Llyn y Morynion ond does dim olion beddi yno heddiw.

Mynediad[golygu | golygu cod]

Mae'r ffordd hawsaf i gyrraedd y llyn o Bont yr Afon Gam, ar lôn y B4391 rhwng Stiniog a'r Bala lle mae lôn arall yn cychwyn dros y Migneint i Ysbyty Ifan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]