Afon Dwyryd
Mae Afon Dwyryd yn afon yng Ngwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru sy'n llifo i'r môr gerllaw Porthmadog.
Cwrs[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Afon Dwyryd yn tarddu i'r gogledd o Ffestiniog, lle mae nentydd oddi ar lethrau'r Moelwyn Mawr yn llifo i Lyn Tanygrisiau ac yna'n llifo o'r llyn fel Afon Goedol (yr enw lleol ar y rhan hon o'r afon). Mae Afon Bowydd yn ymuno a hi ac yna islaw Rhyd y Sarn Afon Cynfal. Ychydig yn ddiweddarch mae Afon Tafarn-Helyg yn ymuno a hi. Gerllaw Maentwrog mae Afon Prysor yn llifo i mewn iddi.
Yn fuan wedyn mae'r aber yn dechrau. Mae'n mynd heibio i Bortmeirion ac yn fuan ar ôl hynny mae ffrwd fechan Afon y Glyn ac Afon Eisingrug yn ymuno. Gerllaw y môr mae'r aber yn ymuno ag aber Afon Glaslyn ac yn ymagor i Fae Ceredigion.