Llyn Tanygrisiau
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ffestiniog |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.98°N 3.97°W |
Rheolir gan | First Hydro Company |
Cronfa ddŵr gerllaw pentref Tanygrisiau yn ardal Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd yw Llyn Tanygrisiau (hefyd Llyn Ystradau).
Adeiladwyd yr argae i ffurfio'r llyn yn 1960; cyn hynny roedd y tir yn ddyffryn corsiog gyda tri phwll bychan, Llyn Ceg Twnnel, Llyn Inclen a Gelliwog. Adeiladwyd y gronfa i gymeryd y dŵr sy'n dod i lawr o Lyn Stwlan wedi iddo gael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan dŵr. Pan adeiladwyd y llyn, boddwyd hen dwnel a rhan o drac Rheilffordd Ffestiniog, a phan ail-agorwyd y rheilffordd i dwristiad bu raid adeiladu twnnel a thrac newydd gerllaw'r llyn.
I'r gorllewin o'r llyn mae'r Moelwyn Mawr a'r Moelwyn Bach, ac mae nifer o nentydd sy'n tarddu ar eu llethrau yn llifo i'r llyn. Mae Afon Goedol yn llifo allan o'r llyn ac yn ymuno ag Afon Dwyryd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)