Moelwyn Bach
Gwedd
| Math | mynydd, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 710 metr |
| Cyfesurynnau | 52.9739°N 3.997°W |
| Cod OS | SH6603243746 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 124 metr |
| Rhiant gopa | Moelwyn Mawr |
| Cadwyn fynydd | Eryri |
![]() | |
Mynydd uwch ben Llyn Stwlan yn Eryri yw'r Moelwyn Bach sy'n 710 metr. Saif yn y canol rhwng pentrefi Croesor i'r gorllewin a Thanygrisiau i'r dwyrain, a Maentwrog i'r de. Mae'r Moelwyn Mawr fymryn i'r gogledd, a chefnen Craigysgafn yn eu gwahanu. Rhwng y ddau Foelwyn mae Bwlch Stwlan, ac islaw gorwedda Llyn Stwlan, sydd ers 1961 yn argae hydroelectrig.
Gellir cerddee i gopa'r Moelwyn Bach o Groesor, un ai'n uniongyrchol neu trwy ddringo'r Moelwyn Mawr yn gyntaf ac yna ymlaen dros Graigysgafn i gopa'r Moelwyn Bach. Taith arall yw o Danygrisiau i Gwmorthin ac ymlaen i hen Chwarel Rhosydd, yna i adfeilion Chwarel Croesor ac ymlaen heibio'r Moelwyn Mawr.
