Chwarel Cwmorthin

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Cwmorthin
Mathmwynglawdd, chwarel Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1810 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.998861°N 3.965464°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN425 Edit this on Wikidata
Chwarel Cwmorthin

Chwarel lechi yn ardal Blaenau Ffestiniog, Gwynedd oedd Chwarel Cwmorthin, hefyd Chwarel Cwm Orthin. Saif yng Nghwmorthin i'r gogledd o bentref Tanygrisiau a ger glan ddeheuol Llyn Cwmorthin (cyf. OS SH681459). Rhyw gilometr i'r gorllewin o ben gogleddol y llyn saif Chwarel y Rhosydd a'i hen adfeilion.

Dechreuwyd y chwarel yn 1810. Yn y 1860au, cafwyd cysylltiad tramffordd â Rheilffordd Ffestiniog, ac ehangwyd y chwarel. Ymgorfforwyd y chwarel yn Chwarel yr Oakeley yn 1900, a rhoddwyd y gorau i weithio ar yr wyneb ar y safle. Bu rhywfaint o weithio yn ysbeidiol hyd y 1980au.

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorwyd chwarel bach gan deulu Casson ym 1810; roedd ganddynt chwarel arall, Chwarel Diphwys Casson. Roedd 2 haen o llechi yno, yn gogwydd ar ongl rhwng 20 a 45 gradd, a daeth y chwarel yn bwll, yn dilyn yr haenau. Gorffennwyd gwaith tua 1830, ond ail-ddechreuodd, o dan berchnogaeth John Edwards ac wedyn W B Chorley o Lundain, hyd at 1859.[1] Ffurfiwyd Cwmni Llechi Cwmorthin ym mis Ionawr 1861. Prynodd y cwmni stad Cwmorthin Isaf a rhan o’r pentref Tan-y-grisiau ar 25 Gorffennaf 1861. Dechreuodd gwaith cloddio danddaearol.[2] Adeiladwyd melin driniaeth, sef Melin y Llyn, lle holltwyd llechi, ar lan ddwyreiniol Llyn Cwmorthin. Adeiladwyd Melin y Groes, yn is yn y cwm, a defnyddiwyd olwyn dŵr i roi pŵer i Felin y Groes.

Gadawodd 350 tunnell o lechi’r chwarel ym 1862, ac erbyn 1876, 12,500 tunnell.[3] Crewyd terasau o gerrig i ddwyrain y chwarel. Cafodd y chwarel enw gwael am ei amodau gwaith; adnabuwyd y chwarel fel ‘The Slaughterhouse’ yn lleol.[4] Bu farw 21 o chwarelwyr rhwng 1875 a 1893. Yn dilyn y Deddf Metalliferous Mines, 1872, roedd rhaid i bob pwll cadw cofnodion o’u gwaith, adrodd am farwolaethau, cadw manylion o’r dynion a bechgyn ar waith yno, ac allbwn y pwll. Dadlodd Cwmorthin, fel rhai eraill, fod chwareli oeddynt yn hytrach na chwareli, felly doedd y Deddf ddim yn berthnasol iddynt. Roedd achos llys yn erbyn Cwmorthin ym 1875, a phenderfynwyd bod pwll oedd o.[5]

Y Cwmni newydd Cwmorthin[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd cwmni newydd ym 1876. Diflanodd ffermdy Cwmorthin Isaf o dan wastraff. Adeiladwyd tai gan rhai gweithwyr y cwmni yn Nolrhedyn, uwchben Tan-y-Grisiau.[6] Roedd cwmnïau eraill yn gweithio o dan ddaear o ochr arall y bryn, ac roedd dadlau yn eu erbyn. Roedd cytundeb ym 1876. Ffurfiwyd Cwmni Chwareli Llechi Oakeley Cyf i reoli’r chwareli eraill ym 1884 ac roedd cytundeb rhyngddynt yn ystod yr un flwyddyn.[7] Cyflogwyd dros 500 o ddynion ym 1882, a chynhyrchwyd llechi mewn 3 melin, 2 yn ddefnyddio ynni dŵr ac un ynni stêm. Roedd tua 50 llif a 50 peiriant trin. Syrthiodd rhai ardaloedd gwaith yng Nghwmorthin ym 1884, yn gwagu Llyn Bach.Aeth cynhyrchu i lawr o 11,600 tunnell ym 1884 i 6,900 ym 1886. Roedd hi’n amhosibl cyrraedd hanner y pwll. Roedd rhaid agor siambrau newydd is o Lyn Cwmorthin, ac oedd hynny’n gostus. Aeth y cwmni i’r wal ym 1888.[8]

Y Cwmni Newydd Llechi Cymreig[golygu | golygu cod]

Ar ôl cwymp o 6,250,000 o dunellau o lechi yng ngwaith y Cymru Llechi Cymreig ym 1844, dilynodd achos llys i benderfynu pwy dylai dalu iawndal i bwy, collodd Cwmni Llechi Cymreig yr achos. Ond yn hytrach na thalu iawndal, rhoesant orau i’w prydles, yn cadw eu elwon a darn sylweddol o’u byddsoddiad gwreiddiol. Ar ôl methiant Cwmni Cwmorthin, ffurfiwyd Y Cwmni Newydd Llechi Cymreig ym 1889 a phrynwyd prydles Cwmorthin am £83,000.[9].Roedd Evelyn Ashley (cyn-gyfarwyddwr Y Cwmni Llechi Cymreig) a’r Aelod Seneddol Joseph Howard.[10]. Yr asiant oedd Robert Owen, a oedd asiant y cwmni blaenorol. Roedd y Cwmni Oakeley wedi beio Owen am y cwymp mawr, a phan triodd o i recriwtio cyn-weithwyr yr hen gwmni i ddod yn ôl i’w gwaith gyda’r cymni newydd, doedd y Cwmni Oakeley ddim yn hapus.[9] Estynnwyd y chwarel yn is, gyda 5 lefel is na’r llyn. Adeiladwyd incleiniau, yn defnyddio peiriannau stêm arnynt, a phympiau i cadw’r lefelau’n sych.[9]. Erbyn 1897 cyflogwyd 290 o bobl, 153 ohonynt yn gweithio o dan ddaear.[10] Ond achosodd ei dramffordd hir codiad ym mhris ei lechi. Erbyn 1896 oedd y cwmni’n un cydweithredol yn rhannu ei incwm gyda gweithwyr gyda cyfrandaliadau. Cynhyrchwyd 77,367 tunnell o lechi gan y cwmni, ac aeth y cymni i arwerthiant, ond yn aflwyddiannus. Aeth y cwmni i’r wal ym 1902.[10]

Perchnogaeth Oakeley[golygu | golygu cod]

Poenodd Cwmni Oakeley am gyflwr Chwarel Cwmorthin ers 1889; roedd perygl o lifogydd o Lyn Cwmorthin. Er diogelwch, prynodd y cwmni’r chwarel, heb fawr o fwriad o weithio yno. Dymchwelwyd Melin y Llyn, a chaewyd y melinau eraill. In 1902 cymerodd y cwmni beirianwaith y chwarel a gadawodd y chwarel i lenwi gyda dŵr. Gwnaethwpy cysylltiad rhwng y ddau chwarel, a llifodd dŵr i chwarel canol Oakeley a daeth dŵr i fyny at lefel y llyn i ddarn gogleddol chwarel Oakeley.[11] Wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf dechreuodd Cwmni Oakeley meddwl am ail-agor y chwarel. Er bod y chwarel wedi bod ar gau ers dros hugain mlynedd, roedd pobl lleol wedi cymryd llechi, ac roedd y chwarel yn anniogel. Ail-osodwyd y dramffordd rhwng y chwarel a’r Rheilffordd Ffestiniog, yr incleiniau a’r melinau, ac adeiladwyd storfa ffrwydron newydd. Ond darganfuwyd fod ddim llawer o lechi da yn yr hen ardal o waith. Ond darganfuwyd llechi eraill dan ddaear, ac adeiladwyd tramffyrdd newydd a chrewyd lefel newydd yn rhan gogleddol y chwarel.[12]

Er roedd llechi da ar gael, roedd diffyg pŵer a hefyd problemau symud llechi i lawr y mynydd. Defnyddiwyd trydan ac awyr gywasgedig a chrewyd cynllun ym 1932 i ddraenio dŵr i ganiatáu dod â phŵer o’r ochr Oakeley. Roedd y gwaith Oakeley o dan y Gwaith Cwmorthin erbyn hyn, felly roedd hi’n bosibl draenio Cwmorthin. Ail-ddechreuodd gwaith ar wyneb Cwmorthin. Adeiladwyd inclein newydd, ac estynnwyd un o incleiniau Oakeley er mwyn symud llechi.[13]

Caewyd y chwarel dros yr Ail Rhyfel Byd, heblaw am ddefnyddio’r pympiau. Wedi’r rhyfel, ceisiwyd symud y daear o haen uwch y chwarel, heb lwyddiant. Symudwyd peiriannau o’r safle. Caewyd chwarelau Oakeley a gwerthwyd Cwmorthin. Gweithiodd dynion lleol, clirio tunelau a symud cerrig[14]. Daethant â llif a defnyddiwyd Land Rover. Ailadeiladwyd melin yn ystof yr 1980au, ond methodd y prosiect. Ailagorwyd y chwarel rhwng 1995 a 1997.[15]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Alan John Richards Gazeteer of slate quarrying in Wales (Llygad Gwalch, 2007)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Isherwood, Graham (1982). Cwmorthin Slate Quarry. Dolgellau: Merioneth Field Study Press
  2. "Gwefan www.cwmorthin.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-12. Cyrchwyd 2021-02-21.
  3. Isherwood, Graham (1982). Cwmorthin Slate Quarry. Dolgellau: Merioneth Field Study Press
  4. "Cwmorthin Slate Mine; cyhoeddwr:The Great Orme Mine Exploration Society; blwyddyn:2008" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-07-25. Cyrchwyd 2021-03-04.
  5. Isherwood, Graham (1982). Cwmorthin Slate Quarry. Dolgellau: Merioneth Field Study Press
  6. Isherwood 1982, tt. 5,7.
  7. Isherwood 1982, t. 9.
  8. Isherwood 1982.
  9. 9.0 9.1 9.2 Isherwood 1982, t. 10.
  10. 10.0 10.1 10.2 Boyd 1975, t. 447.
  11. Isherwood 1982, t. 12.
  12. Isherwood 1982, t. 13.
  13. Isherwood 1982, tt. 13-14.
  14. Isherwood 1982, tt. 14-15.
  15. Richards 1999, t. 157.