Llyn Cwmorthin

Oddi ar Wicipedia
Llyn Cwmorthin
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.998092°N 3.973356°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Cwmorthin

Llyn yn y Moelwynion yng Ngwynedd yw Llyn Cwmorthin. Saif i'r gorllewin o dref Blaenau Ffestiniog, 1,070 troedfedd uwch lefel y môr. Amgylchynir y llyn, sydd ag arwynebedd o 22 acer, gan chwareli llechi, yn cynnwys Gloddfa Ganol, ac ar un adeg fe ddefnyddid ei ddŵr i gynhyrchu pwer i beiriannau'r chwareli. Mae'r afon sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i Lyn Tanygrisiau.

Ceir pysgota da am frithyll yn y llyn. Mae'r ffordd drol ar hyd ochr ddwyreiniol y llyn yn hen ffordd porthmyn, a ddefnyddid i yrru anifeiliaid o ardal Llanfrothen a Croesor.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: