Moelwyn Mawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Moelwyn Mawr
The summit of Moelwyn Mawr.jpg
Math mynydd, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 40.86 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr 770 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.9837°N 4.0004°W, 52.987059°N 3.998747°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd 385 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopa Moel Siabod Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Eryri Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'r Moelwyn Mawr yn fynydd yn Eryri, Gwynedd. Saif Croesor i'r gorllewin iddo a Thanygrisiau i'r dwyrain. Mae'r Moelwyn Bach gerllaw iddo, fymryn i'r de, a chefnen Craigysgafn yn eu gwahanu. Rhwng y ddau Foelwyn mae Llyn Stwlan. I'r gogledd-orllewin, yr ochr arall i Gwm Croesor, mae Cnicht.

Gellir ei ddringo o Groesor, gan anelu am Bont Maesgwm ac yna am gefnen Braich y Parc. Wedi cyrraedd y copa mae'n fater gweddol hawdd mynd ymlaen dros Graigysgafn i gopa'r Moelwyn Bach hefyd.