Afon Prysor

Oddi ar Wicipedia
Afon Prysor
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr195 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.899843°N 3.904026°W Edit this on Wikidata
Map

Afon yng ngogledd Meirionnydd (de Gwynedd) yw Afon Prysor. Mae'n codi ar y rhosdiroedd rhwng Ffestiniog a'r Bala ac yn aberu yn Afon Dwyryd ger Maentwrog. Ei hyd yw tua 14 milltir.[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Tarddle Afon Prysor yw Llyn Conglog Mawr, mewn cwm gwyllt ac unig yng nghysgod bryniau Foel Cynfal a Moel y Croesau, tua 1100 troedfedd uwch lefel y môr. Mae'n ardal wlyb iawn, yn ymyl y Migneint a'i gorsydd eang. Llifa ar gwrs tro bedol am ddwy filltir gan gasglu afonig o Lyn Cors-y-barcud a disgyn i Gwm Prysor. Mae'n troi i'r gorllewin i lawr y cwm ac yn casglu dŵr o sawl ffrwd arall megis Nant Braich-y-ceunant, Nant Budr, Nant Bryn-llefrith ac Afon Llafar a'r ffrwd sy'n disgyn o Llyn Hiraethlyn. Mae'r A4212 yn dilyn ei glannau. Mae'n llifo heibio i Graig Aderyn a Chastell Prysor ac yn disgyn i Lyn Trawsfynydd, y gronfa a greuwyd â dŵr yr afon i oeri atomfa Trawsfynydd.[1]

Ar ôl croesi'r llyn mae'n disgyn yn gyflym trwy goedwig Ceunant Llennyrch i aberu yn Afon Dwyryd tua milltir a hanner i'r gorllewin o Faentwrog.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.