Llyn Conwy
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Math | cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.999°N 3.819°W ![]() |
![]() | |
Llyn Conwy yw tarddle Afon Conwy, yn sir Conwy, gogledd Cymru. Cyfeirnod AO: SH780462.
Mae'r llyn, sydd o siâp crwn anwastad, yn gorwedd tua 1,550' i fyny ar ymyl ogleddol y Migneint. Mae'n gorwedd mewn pant mawr agored. Mae'r tir o gwmpas yn fawnog a chreigiog gyda phlanhigion grug ac eithin yn dominyddu.
Rhed Afon Conwy ifanc allan o ben deheuol y llyn. Er ei fod yn llyn naturiol mae'n gronfa dŵr bellach. Mae'n boblogaidd gan bysgotwyr plu.
Y mynediad hawsaf iddo yw o lôn y B4407, sy'n rhedeg rhwng yr A5 ger Pentrefoelas a Ffestiniog, ger Blaenau Ffestiniog.
Hanes cysylltiedig a'r llyn[golygu | golygu cod y dudalen]
- Nythfa hir-hoedlog i wylanod penddu Larus ridibundus.
- Llyn Konwy o leia dhwy vhildir o Gwmpas. Ymma y mae Ynys y Gwylanod penne dyon. [Llyn Conwy o leiaf ddwy filltir o’i gwmpas. Yma y mae Ynys y Gwylanod Pennau Duon][1]
Mae’r drefedigaeth hon yno o hyd a’r unig un yn sir Gaernarfon of any size[2]