Afon Conwy

Oddi ar Wicipedia
Afon Conwy
Mathafon, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,300.77 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.99514°N 3.81639°W, 53.2983°N 3.8419°W, 53.279491°N 3.818063°W Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Machno, Afon Llugwy, Afon Crafnant, Afon Lledr, Afon Gyffin Edit this on Wikidata
Dalgylch590 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd43 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Conwy. Enwir Bwrdeistref Sirol Conwy ar ei hôl am ei bod yn llifo trwy ganol y sir. Mae tref Conwy yn dwyn ei henw hefyd, er mai Aberconwy oedd ei henw gwreiddiol.

Cwrs yr afon[golygu | golygu cod]

Mae'n tarddu tua 1,550 troedfedd uwch lefel y môr yn Llyn Conwy, sydd bellach yn gronfa dŵr, ar Y Migneint. Filltir i'r de o'r llyn mae'n rhedeg dan y B4407 ac yn troi i'r gogledd i ddilyn y ffordd fel ffrwd fach trwy weundir corsiog y Migneint cyn llifo trwy Ysbyty Ifan.

O Ysbyty Ifan ymlaen mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng hen siroedd Caernarfon a Dinbych am y rhan fwyaf o'i chwrs. Ger Pentrefoelas mae hi'n cwrdd â'r A5 ac yn rhedeg heibio i erddi rhododendron y Foelas a thrwy chwm cul coediog rhwng y bryniau i'w haber ag Afon Machno, sy'n dod i mewn iddi o'r gorllewin o gyfeiriad Penmachno. Fymryn uwchlaw'r aber honno ceir rhaeadrau ar Afon Machno a mymryn islaw ar Afon Conwy ei hun mae: Rhaeadr y Graig Lwyd [1] yn gorwedd mewn ceunant werdd ddofn; mae ystol eogiaid yma i gynorthwyo'r eogiaid ar eu taith i fyny'r afon. Fymryn islaw eto ceir Ffos Noddyn (y Fairy Glen yn Saesneg) lle rhed yr afon trwy ceunant greigiog a choedwig pinwydd cyn derbyn dŵr Afon Lledr i'w llif.

Cyn cyrraedd pentref Betws-y-Coed mae Afon Llugwy yn ymuno â hi yn ogystal. Llyn yr Afanc yw'r enw ar y pwll mawr o ddŵr tawel tywyll ger aber y ddwy afon ac mae yna chwedl werin am yr anghenfil oedd yn byw yno a gafodd ei swyno allan o'r llyn gan eneth ifanc a'i llusgo i fyny'r dyffryn i Lyn Cwm Ffynnon Las, ger Dolwyddelan. Mae'r afon yn llifo wedyn dan bont haearn enwog Pont Waterloo, sy'n cludo'r ffordd A5 drosti.

Mae Afon Conwy yn awr yn llifo'n arafach o lawer tua'r gogledd, heibio i ddolydd eang a phorthfa bras i lawr i Lanrwst a than pont dri bwa Inigo Jones. Yn is i lawr mae'n llifo heibio i bentrefi Trefriw, Dolgarrog a Thal-y-bont ac yn mynd heibio i Gaerhun a safle'r gaer Rufeinig Canovium a'i hen eglwys. Mae pont yn cysylltu Tyn-y-Groes a Tal-y-cafn dros yr afon ac i'r gogledd i Dyn-y-Groes mae hi'n llifo wrth droed hen gaer Geltaidd Bryncastell.

Mae'r afon yn ymledu ar ôl Tal-y-cafn ac yn mynd heibio i Glan Conwy cyn cyrraedd y môr yn ymyl tref Conwy. Yng Nghonwy mae ei llif yn cael ei chyfyngu i redeg dan dair pont ger muriau'r castell: Pont Grog Conwy gan Telford, Pont Rheilffordd Conwy gan Stephenson, a phont ffordd a adeiladwyd ym 1958. Mae'r bont honno, a'r dref, bellach wedi eu hosgoi gan yr A55, sy'n rhedeg mewn twnnel dan yr afon. Wrth ymyl y pontydd hefyd y mae Afon Gyffin yn ymuno â hi. Mae Afon Conwy yn afon lanwol ar ran olaf ei thaith a gall effaith y llanw gyrraedd cyn belled â Llanrwst ar lanw mawr.

Mae ei haber, Aberconwy yn llydan rhwng Conwy a Deganwy ac yn boblogaidd gan berchnogion cychod hwylio, fel y mae'r marina newydd ger Morfa Conwy yn tystio. Yn y gorffennol Aberconwy oedd yr enw brodorol am dref Conwy ei hun. Mae'r banciau tywod eang yn yr aber yn enwog am eu gwelyau cregyn gleision a bysgotir o hyd o harbwr Conwy.

Mewn hanes[golygu | golygu cod]

  • Yn hanesyddol, Afon Conwy oedd y ffin oedd yn rhannu Teyrnas Gwynedd yn ddwy ran, sef Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy (neu Y Berfeddwlad) ac mae hi'n aros yn ffin ddiwyllianol a thafodieithol heddiw.
  • Mae William Williams (1738-1818) o Landygai yr hanesydd Cymreig a ysgrifennodd ‘History of Caernarvonshire’ yn sôn am ddamwain a ddigwyddodd yn Afon Conwy yn amser Cromwell h.y. yn y cyfnod 1649-60 pan fu i un o gychod y fferi suddo ac 80 o deithwyr ar ei bwrdd. Boddwyd y teithwyr i gyd ond un ferch ifanc — Anne Thomas oedd ar ei ffordd i gyfarfod ei darpar ŵr, Sion Humphries o Lanfairfechan. Trwy gyd- ddigwyddiad fe syrthiodd o o ben craig ym Mhenmaenmawr, ond cafodd ei achub! Mae diwedd hapus i’r hanes. Priododd y ddau a symud i fyw i Lanfairfechan. Nid dyna ddiwedd y stori. Pan fu Anne farw ar Ebrill 11eg 1744 roedd yn 116 mlwydd oed, ond bu Sion fyw am bum mlynedd arall ac fe’i claddwyd o ar Ragfyr 10fed 1749. ‘Does dim cyfeiriad at oed Sion pan fuo fo farw ond y tebyg yw ei fod yn llawer ieuengach na’i wraig. Mae’r beddau i’w gweld ym mynwent hen eglwys Llanfairfechan. Tybed ai gwyntoedd cryfion fu’n gyfrifol am y ddwy ddamwain?[2]

Llednentydd[golygu | golygu cod]

Pysgodfeydd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Wilson MacArthur, The River Conway (Llundain, 1952). Hanes daith i lawr yr afon ar ei hyd ar ddechrau'r 1950au.
  • E.D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Llên Natur Archifwyd 2016-03-14 yn y Peiriant Wayback.; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012
  2. Stan Wicklen, Papur Bro 'Y Pentan'

Oriel[golygu | golygu cod]