Afon Lledr
Jump to navigation
Jump to search
Afon Lledr ym Mhont-y-pant | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
174 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
53.0667°N 3.8°W ![]() |
Aber |
Afon Conwy ![]() |
![]() | |
Afon yn Sir Conwy yng ngogledd Cymru sy'n rhedeg i mewn i Afon Conwy yw Afon Lledr. Mae'n llifo trwy Ddyffryn Lledr.
Mae Afon Lledr yn tarddu ar lethrau dwyreiniol Ysgafell Wen, sy'n gorwedd rhwng Moel Siabod a Cnicht. Mae'n llifo tua'r gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Blaenau Dolwyddelan, lle mae Ceunant Tŷ'n y Ddol yn ymuno â hi, yna yn llifo dan y Bont Rufeinig a heibio Dolwyddelan, lle mae Afon Penamnen yn ymuno. Mae'n parhau tua'r gogledd-ddwyrain heibio Pont-y-pant ac yna tua'r dwyrain ar hyd Glyn Lledr, gyda ffordd yr A470 a'r rheilffordd i Flaenau Ffestiniog yn dilyn ei glannau. Mae'n ymuno ag Afon Conwy ychydig i'r de o bentref Betws-y-Coed.