Afon Eigiau
Gwedd
Afon Eigiau yn llifo trwy Gwm Eigiau | |
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.1623°N 3.9133°W |
![]() | |
Mae Afon Eigiau yn afon fechan yn Y Carneddau, Eryri, gogledd Cymru, sy'n llifo i lawr Cwm Eigiau ac i mewn i Lyn Eigiau. Ar ei ffordd mae'n cael ei bwydo gan ffrydiau llai sy'n llifo i lawr o lethrau Foel Grach, Carnedd Llywelyn a Phen yr Helgi Du.
Ei phrif darddle yw Ffynnon Llyffant, llyn bychan ac uchel 2800 troedfedd i fyny ar lethrau dwyreiniol Carnedd Llywelyn. Ceir olion nifer o hen chwareli llechi ar ei glannau yn is i lawr.
