Foel Grach
| Math | mynydd, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Conwy |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 976 metr |
| Cyfesurynnau | 53.17408°N 3.96323°W |
| Cod OS | SH6888165909 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 41.7 metr |
| Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn |
| Cadwyn fynydd | Eryri |
![]() | |
Un o'r copaon ar brif grib y Carneddau yw Foel Grach.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]
Saif rhwng Carnedd Llywelyn i'r de a Charnedd Gwenllian a Foel Fras i'r gogledd.
Fel y rhan fwyaf o'r copaon yn y Carneddau, mynydd gwelltog yw Foel Grach, ond ceir clogwyni ar yr ochr ddwyreiniol yn disgyn tua Llyn Dulyn a Llyn Melynllyn. Mae nifer o nentydd yn tarddu ar y llethrau gorllewinol ac yn llifo i mewn i Afon Caseg.
Caban
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd caban fymryn islaw'r copa fel lle i gysgodi dros nos neu mewn tywydd garw i fynyddwyr sydd mewn trafferthion ar y Carneddau. Fodd bynnag, bu cwyno fod rhai mynyddwyr yn cynllunio i aros yma, yn hytrach nag yn ei ddefnyddio mewn argyfwng yn unig.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map[dolen farw]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
| Y pedwar copa ar ddeg |
|---|
| Yr Wyddfa a'i chriw:
Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
| Y Glyderau:
Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
| Y Carneddau:
Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |
