Carnedd Gwenllian
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 926 metr |
Cyfesurynnau | 53.18298°N 3.96634°W |
Cod OS | SH6870166905 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 33 metr |
Rhiant gopa | Foel-fras |
Cadwyn fynydd | Y Carneddau |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Copa ar brif grib y Carneddau yn Eryri yw Carnedd Gwenllian (neu hyd at 2009: Y Garnedd Uchaf).
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Saif ar y ffin rhwng siroedd Conwy a Gwynedd. Saif ar y grib rhwng Foel Fras a Foel Grach. Wedi cyrraedd y grib, nid yw dringo Garnedd Uchaf ei hun yn serth.
Uchder
[golygu | golygu cod]Nid yw'r copa yma'n cael ei gynnwys yn yr "14 copa" traddodiadol o gopaon dros 3,000 o droedfeddi o uchder, gan nad yw ond fymryn yn uwch na'r brif grib ei hyn, ond hi yw'r pymthegfed copa sydd fymryn dros 3,000 troedfedd.
Newid enw
[golygu | golygu cod]Ar y 1af o Fai 2009 cyhoeddwyd y byddai'r enw'n cael ei newid yn swyddogol o'r Garnedd Uchaf i Garnedd Gwenllian i gofio'r Dywysoges Gwenllian, Tywysoges Cymru, merch Llywelyn Ein Llyw Olaf a'i wraig Elinor (Elen) a goffeir eisoes (yn yr enwau Carnedd Llywelyn a'r Elen). Brawd Llywelyn oedd Dafydd a cheir Carnedd Dafydd i'w goffau.
Bydd yr enw'n cael ei argraffu, gyda'r hen enw hefyd oddi tano rhwng cromfachau, ar fapiau OS newydd o Fedi 2009 ymlaen.[1][2]
Cred rhai, fodd bynnag, mai ar ôl Llywelyn Fawr y galwyd Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd ar ôl Dafydd ap Llywelyn, a bod hefyd gan Yr Elen darddiad heb unhryw gysylltiad ag Elinor - gweler yn yr erthygl honno am fanylion.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw:
Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
Y Glyderau:
Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
Y Carneddau:
Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |