Glyder Fawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Glyder Fawr
Glyder Fawr - geograph.org.uk - 173767.jpg
Math mynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynol Parc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Sir Gwynedd, Conwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 1,001 metr, 1,000.9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.101°N 4.0298°W, 53.10147°N 4.029164°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd 642 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopa Yr Wyddfa Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Eryri Edit this on Wikidata

Mae'r Glyder Fawr yn fynydd yn Eryri, ac ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy. Mae'n un o nifer o fynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi yn y Glyderau, er ei fod un medr yn fyr o fod yn gopa 1,000 medr o uchder. Ceir creigiau mawr ar y copa, yn arbennig y casgliad o greigiau a elwir yn "Castell y Gwynt".

Y ffordd orau o gyrraedd y copa yw dilyn y llwybr o Lyn Ogwen at Lyn Idwal. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger Llyn y Cŵn. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) Gellir troi i'r chwith yma a dilyn llwybr sy'n arwain i gopa'r Glyder Fawr ac yna ymlaen i'r Glyder Fach. Gellir dringo'r mynydd o Pen-y-Pass hefyd, neu gellir dringo Tryfan gyntaf ac yna dilyn y grib i'r Glyder Fach a'r Glyder Fawr, ond mae'r llwybr yma'n anoddach.

Copa'r Glyder Fawr

Yn ôl Syr Ifor Williams, "Gludair" oedd y ffurf gywir ar yr enw. Aeth yn "Glydar" yn nhafodiaith Arfon, yna'n "Glyder". Yr ystyr yw "cruglwyth o gerrig".

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Y pedwar copa ar ddeg

Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) |

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m)