Llyn Idwal
![]() Llyn Idwal o'r Garn | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1158°N 4.0256°W ![]() |
Cadwyn fynydd | Eryri ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | safle Ramsar ![]() |
Manylion | |
Mae Llyn Idwal yn llyn bychan gydag arwynebedd o 28 erw (tua 800 medr wrth 300 m) ynghanol Cwm Idwal yn y Glyderau yng ngogledd Cymru. Mae'r dŵr y llyn yn llifo i lawr Afon Idwal ac yn ymuno â Nant y Benglog ychydig islaw Llyn Ogwen, sydd yna'n ffurfio Nant Ffrancon ac yna Afon Ogwen.
Mae Llyn Idwal yng Ngwynedd, ond mae'r ffin â sir Conwy yn dilyn glan ddwyreiniol y llyn. O gwmpas y llyn mae nifer o fynyddoedd, yn cynnwys Glyder Fawr a'r Garn. Ym mhen gogleddol y llyn mae creigiau Trigyfylchau, sy'n cynnwys y Twll Du neu Gegin y Diafol - hollt twfn yn y clogwyn rhwng Glyder Fawr a'r Garn. Mae'r afon fechan sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i Afon Ogwen.
Tarddiad yr enw
[golygu | golygu cod]Yn ôl traddodiad, rhoddodd Tywysog Gwynedd, Owain Gwynedd un o'i feibion, o'r enw Idwal, yng ngofal gŵr o'r enw Nefydd Hardd. Roedd mab Nefydd ei hun, Dunawd, yn genfigennus o Idwal, ac un diwrnod gwthiodd ef i'r llyn a'i foddi.
Cafodd hostel ieuenctid yn yr ardal ei henwi'n Idwal Cottage.
-
Ochr bella'r llyn, wrth ddod i fyny'r llwybr o'r briffordd
-
-
Llyn Idwal, a Llyn Ogwen yn y cefndir