Foel-fras
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 944 metr |
Cyfesurynnau | 53.194°N 3.9533°W |
Cod OS | SH6961668124 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 62.8 metr |
Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn |
Cadwyn fynydd | Y Carneddau |
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Foel-fras neu Foel Fras.
Daearyddiaeth ac uchder
[golygu | golygu cod]Saif ar brif grib y Carneddau rhwng Foel Grach a Drum, uwchben pentref Abergwyngregyn, ar y ffin sirol rhwng Sir Conwy a Gwynedd; cyfeiriad grid SH696681. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 883 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Foel-fras yw'r pellaf i'r gogledd o'r 14 copa yn Eryri sydd dros 3,000 o droedfeddi o uchder (mae Drum ychydig oddi tan yr uchder yma). I'r de iddo mae'r llechweddau yn arwain i lawr at Lyn Dulyn, tra mae Llyn Anafon i'r gogledd o'r copa.
Llwybrau
[golygu | golygu cod]Gellir dringo'r mynydd trwy ddilyn y ffordd fychan o Abergwyngregyn sy'n arwain heibio'r maes parcio ar gyfer Rhaeadr Fawr ac yn diweddu mewn maes parcio bychan. Oddi yma gellir cymryd y llwybr i'r chewith o'r maes parcio a dilyn trac amlwg, gan droi i'r dde lle mae arwyddbost yn cyfeirio at Drum. Wedi cyrraedd copa Drum gellir dilyn y grib i gopa Foel-fras. Dewis arall yw ymuno a'r ffordd drol i Lyn Anafon, ac yna dringo i fyny i'r grib rhwng Drum a Foel-fras.
Bywyd gwyllt
[golygu | golygu cod]Mae'r ardal o gwmpas y copa yn un o'r lleoedd gorau yng Nghymru i weld Hutan y Mynydd pan mae'n symud tua'r gogledd tua diwedd Ebrill a dechrau Mai.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map[dolen farw]
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw:
Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
Y Glyderau:
Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
Y Carneddau:
Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |