Yr Elen
![]() | |
Cyfieithiad | |
Iaith | Cymraeg |
Testun y llun | Yr Elen o Gwm Caseg |
Uchder (m) | 962 |
Uchder (tr) | 3156 |
Amlygrwydd (m) | 57 |
Lleoliad | yn Eryri |
Map topograffig | Landranger 115; Explorer 17W |
Cyfesurynnau OS | SH673651 |
Gwlad | Cymru |
Dosbarthiad | Hewitt a Nuttall |
Mae Yr Elen yn fynydd yn y Carneddau yn Eryri. Saif ar grib fechan sy'n gadael prif grib y Carneddau ger Carnedd Llywelyn ac yn arwain tua'r gogledd-orllewin. Mae'n agos iawn at Garnedd Llywelyn, dim ond un cilometr ar hyd y grib, ac fel arfer cyrhaeddir y copa o gopa Carnedd Llywelyn. Mae modd hefyd dringo'r Elen yn uniongyrchol o Gerlan ger Bethesda, gan ddilyn Afon Llafar at droed yr Elen ac yna dilyn llwybr braidd yn aneglur i fyny'r llechweddau. Mae'r ffordd hon braidd yn serth, ond mae rhai o'r ffyrdd i fyny Carnedd Llywelyn yn cynnwys rhannau serth hefyd megis ar lechweddau Pen yr Ole Wen.
Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Un awgrym yw fod y mynydd wedi ei enwi ar ôl rhyw "Elen", efallai, os mai Llywelyn ap Gruffudd a roes ei enw i Garnedd Llywelyn, fod "Yr Elen" wedi ei enwi ar ôl ei wraig Eleanor de Montfort. Mwy tebygol yw mai Gelen sydd yn yr enw, yn cyfeirio at y ffordd y mae'r mynydd i weld wedi ei gysylltu ei hun ar ystlys Carnedd Llywelyn, fel gelen ar anifail.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |