Elinor de Montfort
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Eleanor de Montfort)
| Elinor de Montfort | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 1258, 1252 |
| Bu farw | 19 Mehefin 1282 o anhwylder ôl-esgorol Abergwyngregyn |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
| Galwedigaeth | diplomydd |
| Tad | Simon de Montfort |
| Mam | Elinor, iarlles Caerlŷr |
| Priod | Llywelyn ap Gruffudd |
| Plant | y Dywysoges Gwenllian |
| Llinach | House of Montfort-l'Amaury |
Roedd Elinor de Montfort neu Eleanor de Montfort (1252 – 19 Mehefin 1282), yn ferch Simon de Montfort ac Eleanor o Loegr (chwaer Harri III, brenin Lloegr), a gwraig Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru.[1] Mam y Dywysoges Gwenllian oedd hi.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ar ôl priodi Llywelyn ym 1278, ei theitl swyddogol (yng Nghymru a Lloegr) oedd 'Tywysoges Cymru' ac 'Arglwyddes Eryri' (fel yr oedd Llywelyn ei hun yn Dywysog Cymru ac Arglwydd Eryri).[1]
Bu farw Elinor yn 1282. Yn ôl Brut y Tywysogion, ildiodd ei hysbryd wrth roi genedigaeth i ferch (Gwenllian), yn llys Abergwyngregyn:
- "ac o honno y bu ferch i'r tywysog a elwid Gwenllian, ac yn esgor arni y bu farw Elinor ac y'i claddwyd ym mynachlog y brodyr troednoeth yn Llan-faes ym Môn."[1]
Yn ôl Cronicl Bury St Edmund bu farw ar 19 Mehefin. Fe'i claddwyd yn ymyl y Dywysoges Siwan ym Mhriordy Llan-faes ar Ynys Môn.[1]