Elinor de Montfort

Oddi ar Wicipedia
Elinor de Montfort
Ganwydc. 1258, 1252 Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mehefin 1282 Edit this on Wikidata
o anhwylder ôl-esgorol Edit this on Wikidata
Abergwyngregyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd Edit this on Wikidata
TadSimon de Montfort Edit this on Wikidata
MamElinor, iarlles Caerlŷr Edit this on Wikidata
PriodLlywelyn ap Gruffudd Edit this on Wikidata
Planty Dywysoges Gwenllian Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Montfort Edit this on Wikidata

Roedd Elinor de Montfort neu Eleanor de Montfort (125219 Mehefin 1282), yn ferch Simon de Montfort ac Eleanor o Loegr (chwaer Harri III, brenin Lloegr), a gwraig Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru.[1] Mam y Dywysoges Gwenllian oedd hi.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ar ôl priodi Llywelyn ym 1278, ei theitl swyddogol (yng Nghymru a Lloegr) oedd 'Tywysoges Cymru' ac 'Arglwyddes Eryri' (fel yr oedd Llywelyn ei hun yn Dywysog Cymru ac Arglwydd Eryri).[1]

Bu farw Elinor yn 1282. Yn ôl Brut y Tywysogion, ildiodd ei hysbryd wrth roi genedigaeth i ferch (Gwenllian), yn llys Abergwyngregyn:

"ac o honno y bu ferch i'r tywysog a elwid Gwenllian, ac yn esgor arni y bu farw Elinor ac y'i claddwyd ym mynachlog y brodyr troednoeth yn Llan-faes ym Môn."[1]

Yn ôl Cronicl Bury St Edmund bu farw ar 19 Mehefin. Fe'i claddwyd yn ymyl y Dywysoges Siwan ym Mhriordy Llan-faes ar Ynys Môn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986).


Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.