Neidio i'r cynnwys

Sgwrs:Carnedd Gwenllian

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Carnedd Gwenllian[golygu cod]

Ydym ni am gadw wrth yr hen enw neu newid o? Dwi'n rhagweld 'Carnedd Gwenllian' yn dod yn llawer mwy poblogaidd na 'Garnedd Uchaf', sy'n enw di-ddychymyg braidd. Cynigion? Bydd ar y map o Fedi ymlaen (gyda'r hen enw hefyd). Anatiomaros 14:42, 2 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Efallai ei newid fis Medi, pan ddaw'n swyddogol? Ar fater arall, mae'r erthygl bresennol yn dweud "Llywelyn Ein Llyw Olaf a'i wraig Elen, a goffeir eisoes, gyda Dafydd ap Gruffudd, yn enwau copaon eraill gerllaw, sef Carnedd Llywelyn, Yr Elen a Carnedd Dafydd". Does dim sicrwydd o hyn - fe allai Carnedd Llywelyn gyfeirio at Llywelyn Fawr a Charnedd Dafydd at Dafydd ap Llywelyn, tra mae ystyr "Yr Elen" yn ansicr. Rhion 06:01, 5 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n deall bydd y seremoni ailenwi yn cael ei chynnal o fewn mis neu ddau. Ac rwyt ti'n iawn am "briodoledd" yr enwau wrth gwrs; meddwl am y rhesymeg dros ei ailenwi oeddwn i ond mae angen egluro'r ansicrwydd. Anatiomaros 15:27, 5 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Myfi, Lywelyn, a wnaeth hynny neithiwr o fewn eiliadau i'r gofyn.... a daeth Gwenllian yn ôl! Llywelyn2000 21:55, 5 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Rhyfeddol o sydyn, Llywelyn! Efallai cawn ni wared o'r ailgyfeiriad a symud yr erthygl i'r enw newydd ar ôl y seremoni enwi (sydd i'w chynnal ar y mynydd, dwi'n meddwl - dyna pam mae nhw'n aros am dywydd teg yn lle'r gaeaf bach annifyr sy gennym rwan, mae'n debyg)? Llongyfarchiadau i Gymdeithas Gwenllian, meddwn i! Anatiomaros 22:35, 5 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Rhaid ir ddau enw cael eu ddefnyddio yma. mae garnedd uchaf yn enw hanesyddol ir copa. enw newydd ydi'r un yma. does ddim cysylltiad ar mynydd yma a gwenllian yn hanesyddol. mae carnedd gwenllian ar y map gyda garnedd uchaf hefyd. Ganredd Uchaf/Carnedd Gwenllian ydir fordd ymalen 86.141.154.241

Diolch am eich sylwadau ar yr enw[au] priodol. Does dim byd wedi cael ei benderfynu yn derfynol eto. Mae'n debyg y byddem yn 'mynd gyda'r lli' ac efallai mai aros i weld os ceiff yr enw newydd dderbyniad eang sydd orau (byddem ni ddim yn dileu'r hen enw fel y cyfryw, beth bynnag fydd enw'r erthygl yn nes ymlaen). Anatiomaros 18:24, 4 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Enw[golygu cod]

Pam "Garnedd Gwenllian" yn hytrach na "Carnedd Gwenllian"? Rhion 05:58, 21 Awst 2009 (UTC)[ateb]