Afon Caseg
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Afon yn y Carneddau, Eryri, yw Afon Caseg. Mae'n tarddu yn llyn bychan Ffynnon Caseg, yng Nghwm Caseg, rhwng Yr Elen a Charnedd Llywelyn. Mae'r afon yn llifo tua'r gogledd-orllewin, ac mae'r ffrwd fechan afon Wen, sy'n tarddu yn y cwm rhwng Foel Grach a Garnedd Uchaf, yn ymuno â hi.
Llifa tua'r gorllewin heibio Gyrn Wigau ac olion nifer o dai o Oes yr Haearn, cyn i afon Llafar ymuno â hi gerllaw Gerlan. Mae'n ymuno ag afon Ogwen yng nghanol Bethesda.