Carnedd Gwenllian

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Garnedd Uchaf)
Jump to navigation Jump to search
Carnedd Gwenllian
Carneddau
Copa gwastad Carnedd Gwenllian gyda'r Aryg yn y cefndir
Llun Copa gwastad Carnedd Gwenllian gyda'r Aryg yn y cefndir
Uchder 926m / 3,038 troedfedd
Lleoliad Y Carneddau, Eryri
Gwlad Cymru

Copa ar brif grib y Carneddau yn Eryri yw Carnedd Gwenllian (neu hyd at 2009: Garnedd Uchaf). Saif ar y ffin rhwng siroedd Conwy a Gwynedd.

Nid yw'r copa yma'n cael ei gynnwys yn yr "14 copa" traddodiadol o gopaon dros 3,000 o droedfeddi o uchder, gan nad yw ond fymryn yn uwch na'r brif grib ei hyn, ond hi yw'r pymthegfed copa sydd fymryn dros 3,000 troedfedd. Saif ar y grib rhwng Foel Fras a Foel Grach. Wedi cyrraedd y grib, nid yw dringo Garnedd Uchaf ei hun yn serth.

Newid yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar y 1af o Fai 2009 cyhoeddwyd y byddai'r enw'n cael ei newid yn swyddogol o Garnedd Uchaf i Garnedd Gwenllian i gofio'r Dywysoges Gwenllian, Tywysoges Cymru, merch Llywelyn Ein Llyw Olaf a'i wraig Elinor (Elen) a goffeir eisoes (yn yr enwau Carnedd Llywelyn a'r Elen). Brawd Llywelyn oedd Dafydd a cheir Carnedd Dafydd i'w goffau.

Bydd yr enw'n cael ei argraffu, gyda'r hen enw hefyd oddi tano rhwng cromfachau, ar fapiau OS newydd o Fedi 2009 ymlaen.[1][2]

Cred rhai, fodd bynnag, mai ar ôl Llywelyn Fawr y galwyd Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd ar ôl Dafydd ap Llywelyn, a bod hefyd gan Yr Elen darddiad heb unhryw gysylltiad ag Elinor - gweler yn yr erthygl honno am fanylion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Y pedwar copa ar ddeg

Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) |

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m)