Afon Ro
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.212°N 3.83°W ![]() |
![]() | |
- Mae 'Afon Tafolog' yn ailgyfeirio i'r dudalen hon.
Afon yn Sir Conwy yw Afon Ro (weithiau Afon Roe, e.e. ar y map Ordnans). Mae'n un o lednentydd chwith Afon Conwy. Enwir pentref Rowen ar ôl yr afon. Hyd: tua 5 milltir.
Cwrs[golygu | golygu cod]
Tardda Afon Ro o sawl ffrwd fechan ar lethrau deheuol Tal-y-fan, i'r dwyrain o Fwlch-y-Ddeufaen. Mae'r uchaf o'r ffrydiau hyn yn tarddu tua 480 metr i fyny ychydig i'r de o gopa gorllewinol Tal-y-fan. Mae ffrydiau eraill yn tarddu ychydig i'r dwyrain gan lifo'n agos i hen gromlech Maen y Bardd. Ar ôl dilyn cwrs deheuol ymunant i ffurfio Afon Ro. Yna mae Afon Tafolog, sy'n hel nifer o ffrydiau mynyddig yn y corsdir ger Bwlch-y-Ddeufaen, yn ymuno ag Afon Ro sy'n llifo wedyn ar gwrs i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.
Mae'n llifo drwy bentref Rowen ac wedyn yn gwneud tro bedol i lifo i gyfeiriad y de. Mae'n mynd dan bont ar y B5106 (Conwy - Betws-y-Coed) a heibio i bentref Caerhun. Mae'n troi i'r dwyrain eto gan fynd heibio i safle caer Rufeinig Canovium (Caerhun) i lifo i Afon Conwy.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Map Arolwg Ordnans 1:50,000, taflen 115.