Llandygái

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llandygai)
Llandygái
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTegai Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2167°N 4.1°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000073 Edit this on Wikidata
Cod OSSH597708 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llandygái[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau Llandygai[2] neu Llandegai). Saif ychydig i'r de-ddwyrain o ddinas Bangor ar lan orllewinol Afon Ogwen, gyda phentref Tal-y-bont ar y lan ddwyreiniol. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llandygái gan Sant Tegai/Tygái yn y 6g.

Yr adeilad mwyaf yn Llandygái yw Castell Penrhyn, a adeiladwyd gan Arglwydd Penrhyn gyda'r arian a gafodd o dyfu siwgr yn Jamaica a'r elw o Chwarel y Penrhyn. Mae'n awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Heb fod ymhell o Landygái mae gwarchodfa adar Aberogwen, ar lan Traeth Lafan.

Treuliodd y bardd Griffith Williams (Gutyn Peris) (1769-1838), un o ddisgyblion Dafydd Ddu Eryri, y rhan helaeth o'i oes yn Llandygái. Gweithiai yn Chwarel y Penrhyn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Olion hynafol[golygu | golygu cod]

Ceir cylch cytiau caeedig Cororion gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Rhwng Llandygái a stad dai Maesgeirchen mae Stad Ddiwydiannol Llandygái. Wrth baratoi'r tir ar gyfer y stad ddiwydiannol yn 1967 darganfuwyd olion tŷ sylweddol o faint o'r cyfnod Neolithig, 6 medr o led wrth 13 medr o hyd, ynghyd ag olion o Oes yr Efydd, Oes yr Haearn, cyfnod y Rhufeiniaid a mynwent o'r Canol Oesoedd cynnar. Mae'r stad ddiwydiannol yn awr yn cael ei ehangu. Cloddiodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Parc Bryn Cegin yn 2006[5] (cyn yr adeiladu), gan ddarganfod olion tŷ arall yn dyddio o oddeutu 4000CC ac olion neolithig eraill, yn ogystal ag olion dau dŷ crwn o gyfnod y Brythoniaid a'r Rhufeiniaid, amrywiaeth o leiniau gwydr ac arteffactau eraill, a thwmpathau llosg o'r oes efydd.[6]

Mewn llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Sonnir am "glochdy Llandygái" mewn cerdd i "Glychau'r Gog" gan R. Williams Parry:

Mwynach na hwyrol garol
O glochdy Llandygái
Yn rhwyfo yn yr awel
Yw mudion glychau Mai
Yn llenwi'r cof â'u canu;
Och na bai'n ddi-drai!

Yr 'hwyrol garol' yw'r sŵn sy'n dod o'r clychau wrth iddynt gael eu canu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. http://www.heneb.co.uk/llandegaiweblog/llandygaiintro.html
  6. Cyfeillion 24 Friends, Cylchgrawn Ymddiriedolaeth Gwynedd, Gwanwyn 2006, tt. 11-24