Llanystumdwy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanystumdwy
Highgate Llanystumdwy - geograph.org.uk - 357830.jpg
Math anheddiad dynol, cymuned Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52°55'20"N, 4°16'17"W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000089 Edit this on Wikidata
Cod OS SH473385 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref a chymuned yn Eifionydd, Gwynedd, gogledd Cymru yw Llanystumdwy ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar yr A497 rhwng Cricieth a Pwllheli, ar lannau Afon Dwyfor. Ystyr yr enw yw "yr eglwys wrth y tro ar Afon Dwy".

Mae'n enwog am ei chysylltiadau â Lloyd George. Treuliodd y 'Dewin Cymreig' ei blentyndod yn y pentref tan oedd yn 15eg oed, yng ngofal ei ewythr Richard Lloyd, crydd wrth ei grefft a gweinidog cynorthwyol yn y capel lleol: Capel Moreia. Cafodd Lloyd George ei gladdu yn Llanystumdwy. Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Yn Llanystumdwy ym 1912 roedd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru, pan ddychwelodd Lloyd George yma i agor neuadd newydd y pentref. Gwaeddodd y Swffragetiaid ar draws ei araith gan alw am bleidleisiau i ferched. Cafodd y merched eu llusgo o'r neuadd yn filain iawn a'u curo. Cafodd un ohonynt ei dillad wedi’u tynnu a bu bron i un arall gael ei thaflu oddi ar pont Afon Dwyfor gerllaw, ac i’r creigiau oddi tano. [3]

Mae'n bentref deniadol lle gwelir nifer o fythynnod a thai sy'n dyddio o'r 17g a'r 18g, wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. Mae pont ddwy fwa sy'n dyddio o'r 17g ar Afon Dwyfawr ar gyrion Llanystumdwy.

Pobl o Lanystumdwy[golygu | golygu cod y dudalen]

Atyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy.

Ceir Amgueddfa am fywyd a gwaith Lloyd George yn y pentref. Mae ei fedd, a gynlluniwyd gan y pensaer Clough Williams-Ellis (Portmeirion), ynghyd â'r capel coffa gerllaw, dros yr hen bont ar gyrion y pentref.

Mae Tafarn y Plu yn dafarn Gymreig draddodiadol a adeiladwyd yn 1813 ac sydd prin wedi newid ers hynny.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleolir Ysgol Llanystumdwy yn y pentref. Mae'r ysgol gynradd Gymraeg hon yn rhan o dalgylch Ysgol Eifionydd, Porthmadog.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanystumdwy (pob oed) (2,080)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanystumdwy) (1,553)
  
77%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanystumdwy) (1528)
  
73.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanystumdwy) (271)
  
31.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Winning the vote for women in Wales". llgc.org.uk. https://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Pleidleisio/EtholMerched/EnnillBleidlais/index-e.htm. Adalwyd 31 Mawrth 2016.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: