Neidio i'r cynnwys

Nebo, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Nebo
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.03°N 4.2683°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH479505 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Nebo.

Pentref gwledig yn Arfon, Gwynedd, yw Nebo ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif milltir a hanner i'r de-ddwyrain o Lanllyfni, ger Pen-y-groes, a thua milltir i'r dwyrain o briffordd yr A487 rhwng Caernarfon a Chricieth.

Y pentref agosaf yw Nasareth. Mae'r hen lôn o Lanllyfni yn rhedeg heibio i waelod Nebo ar ei ffordd i Garn Dolbenmaen. Ardal o hen dyddynoedd bychain ydyw yn bennaf, ar wasgar yn eu caeau ar y llethrau. Mae Nebo wedi ei enwi ar ôl y capel lleol, un o sawl yng Nghymru a enwyd ar ôl Mynydd Nebo yn yr Hen Destament.

Mae lôn yn arwain i fyny o Nebo i Lyn Cwmdulyn dan greigiau serth Mynydd Graig Goch. Mae'r afonig sy'n rhedeg o'r llyn yn mynd heibio i'r pentref ar ei gwr gogleddol i ymuno yn Afon Crychddwr sy'n llifo wedyn i Afon Llyfni.

Addysg

[golygu | golygu cod]

Ceir ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng nghanol y pentref, sef Ysgol Nebo, sy'n rhan o dalgylch Ysgol Dyffryn Nantlle.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]