Tywyn, Gwynedd
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,133 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,787.47 ha |
Cyfesurynnau | 52.5829°N 4.0899°W |
Cod SYG | W04000102 |
Cod OS | SH585004 |
Cod post | LL36 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
- Mae hon yn erthygl am y dref ym Meirionnydd. Am y pentref yn sir Conwy gweler Tywyn (Conwy). Gweler hefyd Tywyn (gwahaniaethu).
Tref fechan a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Tywyn. Saif ym Meirionnydd ar lan Bae Ceredigion. Mae'r traeth a'r promenâd yn atyniadau poblogaidd. I'r gogledd y mae aber Afon Dysynni, ac i'r gogledd-ddwyrain y mae tir amaethyddol bras Dyffryn Dysynni a phentref Bryn-crug. I'r dwyrain ceir bryniau Craig y Barcud a Chraig Fach Goch. I'r de y mae Morfa Penllyn ac Afon Dyffryn Gwyn.
Safle'r dref
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Tywyn ar ochr ogleddol penrhyn o dir rhwng corstiroedd aber afon Dyffryn Gwyn, i'r de, a chorstiroedd aber afon Dysynni i'r gogledd. Yn yr Oesoedd Canol roedd modd hwylio cryn bellter i fyny afon Dysynni,[1] ond mae hynt yr afon wedi newid cymaint fel ei bod yn anodd gwybod ble'r oedd ei phrif wely yn yr Oesoedd Canol cynnar.[2] Mae Glanymorfa Mawr a Bach ger Llanegryn a Glanymorfa ar ochr ddeheuol afon Dysynni yn rhoi rhyw syniad o ba mor bell yr oedd y llanw yn cyrraedd. Cyn dechrau'r gwaith o sychu'r corsydd yn y 18g, gan greu camlas i Afon Fathew, roedd Ynysymaengwyn yn ynys pan fyddai llanw uchel iawn.[3] Roedd modd dod â chychod bychain i'r lan nid nepell o'r eglwys tan 1809.[3] Mae mapiau o'r 200 mlynedd diwethaf yn dangos symudiad graddol aber Dysynni i'r gogledd,[1] gyda'r map O.S. cyntaf o 1837 yn dangos bod aber yr afon yn llawer mwy eang nag ydyw heddiw a gwely nant llydan yn cysylltu llyn yr aber â'r dref.[1] Tan y 19eg ganrif yr oedd ardal gorsiog arall i'r de o'r dref ac Afon Dyffryn Gwyn yn troelli trwyddi a thrwy lyn o'r enw Llyn y Borth a roddodd ei enw i fferm Penllyn. Draeniwyd y llyn rhwng 1862 a 1864.[3] Efallai y dewiswyd safle Tywyn yn rhannol oherwydd y buasai'n gymharol hawdd ei amddiffyn; gyda'r môr i'r gorllewin ac aberoedd a chorstir i'r de a'r gogledd [1] a'r penrhyn yn rhoi cysgod rhag gwyntoedd o'r de-orllewin.
Yr enw
[golygu | golygu cod]Ystyr y gair tywyn yw 'traeth, glân môr, twyn tywod'[4] ac mae twyni tywod eang i'w cael i'r de ac i'r gogledd o'r dref. Digwydd yr elfen tywyn mewn nifer o enwau lleoedd eraill, gan gynnwys Tywyn (neu Towyn) ger Abergele. Yn Gymraeg, yr ynganiad yw [ˈtəʊ.ᵻn] neu [ˈtᴐʊ.ᵻn]. Yr ynganiad Saesneg arferol hyd heddiw yw /ˈtaʊ.ɪn/.
Cyn y 1960au, Towyn oedd y sillafiad arferol yn Saesneg ac yn aml iawn yn y Gymraeg hefyd. Ond pan safonwyd orgraff y Gymraeg yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, daeth y sillafiad Tywyn yn fwyfwy cyffredin. Yn 1967, pleidleisiodd aelodau Cyngor Dinesig Towyn o blaid gofyn i Gyngor Sir Feirionnydd alw'r dref yn swyddogol wrth yr enw Tywyn. Ym mis Gorffennaf 1967 fe dderbyniwyd hynny gan y Cyngor Sir. Ond aeth gwrthynebwyr i'r newid ati i arwain ymgyrch gan drefnu refferendwm answyddogol ar 25 Mai 1968.[5] Ni bu unrhyw ymwneud â'r refferendwm hwn ar ran y Cyngor Dinesig nac unrhyw gorff swyddogol arall. Yn hytrach, fe'i trefnwyd a'i ariannu gan rai masnachwyr a gwrthwynebwyr i'r ffurf Tywyn.[6] Yn y refferendwm roedd modd dewis rhwng Tywyn a Towyn – cafwyd mwyafrif sylweddol o blaid Towyn.[7] O ganlyniad aeth Cyngor Dinesig Tywyn (fel yr oedd bellach) yn ôl at y Cyngor Sir i ofyn am ailystyried y penderfyniad. Ond ym Mehefin 1969, gwrthododd y Cyngor Sir y cais hwn ac felly cadwyd at y ffurf Tywyn.[8]
Yn 1974, ysgrifennodd Melville Richards, athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor: 'Mae'r holl ymrafael ynglŷn â sillebu'r enw wedi codi am fod cryn ansicrwydd ac amrywio yn Gymraeg gynt rhwng y seiniau ow ac yw. Ond yn ddiddadl, Tywyn yw'r ffurf gywir'.[9] Mae'r sillafiad Tywyn yn cynrychioli'r ynganiad Cymraeg yn well na Towyn.[10]
Bellach, ystyrir Towyn yn ffurf Seisnigedig ond fe'i ceir o hyd mewn ambell gyd-destun.[11] Yn y cyfnod Fictoraidd a hyd at ganol yr 20g ceir enghreifftiau o'r ffurf Towyn-on-Sea.
Hyd at oddeutu canol yr 20g, cyfeirid yn achlysurol at y dref fel Y Tywyn, ond nid arferir y ffurf honno bellach. Clywir y ffurf Tywyn Meirionnydd yn gyffredin hyd heddiw.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuadau
[golygu | golygu cod]Ffoaduriaid
[golygu | golygu cod]Ffoaduriad o Armorica (Lydaw heddiw) a ymsefydlodd yn Nhywyn gyntaf. Roeddent yn ddisgynyddion i lwythau o Frycheiniog a Henffordd a gadwodd Gristnogaeth yn fyw yn ne-ddwyrain Cymru ar ôl i'r Rhufeiniaid adael yn 383.[12] Pan ddychwelodd Elen, gweddw Macsen Wledig i Gymru yn 388 daeth â syniadau Martin o Tours gyda hi. Datblygodd Cristnogaeth Geltaidd trwy addasu Cristnogaeth trwy de a de-orllewin Cymru, fel arfer trwy briodasau rhwng teuluoedd penaethiaid. Ymledasant i Gernyw ac wedyn i Lydaw lle'r oedd y llwythau yn perthyn i rai de Cymru a'r ieithoedd yn debyg i'w gilydd. Bu rhaid iddynt ffoi o Lydaw am dri rheswm. Cafodd rhannau o Lydaw eu goresgyn gan Ffrancod tua'r flwyddyn 537.[13] Cipiodd Hoel, un o feibion Emyr Llydaw, rym ar ôl ei farwolaeth, gan orfodi nifer o'i dylwyth i ffoi.[14] Dihangodd rhai oddi wrth y pla melyn a ymledodd ar draws Ewrop o 541 i 549.[12]
Lloches
[golygu | golygu cod]Daeth nifer o'r ffoduriaid i chwilio am loches yng Ngwynedd. Roedd Gwynedd o dan reolaeth Maelgwn Gwynedd a'i feibion. Roedd ambell un o'r tylwyth wedi mabwysiadu Cristnogaeth ond nid y llwyth cyfan fel yn ne Cymru. Rhoddodd Maelgwn a'i feibion ganiatâd i'r ffoaduriaid ymgartrefu ar yr amod y buasent yn canolbwyntio ar fywyd ysbrydol a pheidio ag ymyrryd yn rheolaeth Gwynedd. Glaniodd Cadfan, mab Eneas Lydaweg a Gwen Teirbron yn 516 [15] yn ôl rhai ffynonellau; ond gan y bu Cadfan yn ŵyr i Emyr Llydaw c.460- c.546 [14] mae'r dyddiad hwn yn ymddangos yn rhy gynnar. Mae'r dystiolaeth uchod yn awgrymu dyddiad tua phedwardegau'r 6g er bod rhai yn awgrymu dyddiad mor hwyr â 576.[16] Yn ôl Llyfr Llandaf, hwylio i Dywyn o Armorica, sef Llydaw, a wnaeth Cadfan a deuddeg arall. Mae deuddeg yn rhif sumbolaidd ac mae gwahanol restrau o'i gyd-deithwyr yn cynnwys tua 25 o enwau, a'r rhain yn uchelwyr yn unig.[14] Mae'n debyg fod mwy nag un fintai wedi cyraedd. Buasent wedi cysylltu ag eraill o'u tylwyth gan defnyddio'r môr fel eu prif ffordd o deithio.[17] Ymsefydlasant yn gyntaf ar arfordir Meirionnydd gan ehangu i'r dwyrain dros gyfnod.
Sefydlu llan
[golygu | golygu cod]Buasai Cadfan a'i gyd-deithwyr wedi dilyn trefn arferol Cristnogion Celtaidd de Cymru gan sefydlu llan neu gymuned Gristnogol ar gyfer menywod a dynion gydag eglwys fechan yn ei chanol.[18] (Ystyr gwreiddiol y gair llan oedd darn o dir wedi ei gau neu safle agored yng nghanol coed.[19]) Adeiladwyd eglwys o bren yn gyntaf. Buasai'r llan yn weddol agos at drigolion lleol, ond heb gymryd drosodd eu pentrefi neu eu caeau. Nid oes unrhyw olion o'r safle hwn ond mae'n rhesymol i dybio ei fod o dan hen rannau o Dywyn sy'n cynnwys safle yr eglwys. Ni wyddom pa mor gyflym y llwyddodd Cadfan i ddenu pobl leol at Gristnogaeth ac i ymuno â'r gymuned ond yn dilyn arferiad de Cymru pan dyfodd y llan yn rhy fawr, neu pan oedd plant penaethiaid yn dymuno sefydlu eu tiriogaeth eu hunain, buasai llan newydd wedi cael ei chreu dan arweiniad un o deulu'r uchelwyr.[18] Mae nifer o lannau ym Meirionnydd yn dwyn enw un o'r tylwyth a daeth o Lydaw neu un o'u disgynyddion.
Y clas
[golygu | golygu cod]Datblygodd ambell lan enw da naill am yr addysg a roddwyd yno neu ymgartrefodd rhywun adnabyddus am ei ddysg yno. Tyfodd y rhain, gan gynnwys Tywyn, i fod yn glasau; sef canolfannau addysgiadol eu hardal.[18] Pan ddaeth Cristnogaeth yn ffydd y mwyafrif trodd y llannau'n bentrefi ond parodd rhai o'r clasau'n gymunedau Cristnogol, gyda gwragedd yn ogystal â dynion, tan y goresgyniad Edwardaidd. Erbyn 1147 gelwid arweinydd y clas yn Nhywyn yn abad [15] a throsglwyddodd y swydd o dad i fab.
Y faenol
[golygu | golygu cod]Daeth Tywyn yn faenol (cymuned neu bentref dan reolaeth uchelwr, yr abad yn Nhywyn, gyda digon o dir i fod yn hunangynhaliol) yn ogystal â chlas. Gelwid yr ardal i'r de-orllewin o'r dref y "Faenol" tan ddiwedd y 19eg ganrif.[20] Mae fferm yno a gelwir Faenol (Uchaf) a gelwid Faenol Isaf yn Ysgubor Ddegwm tan y 1870au[21] gan adleisio hawl yr eglwys ganoloesol i derbyn degwm o gynnyrch y bobl. Ychydig i'r de mae'r fferm Caethle. Buasai pob faenol yn cadw taeogion oedd yn gorfod aros ar y faenol ond a oedd yn byw ychydig ar wahân i'r gwedill.
Cerrig enwog
[golygu | golygu cod]Mae eglwys Cadfan yn gartref i Garreg Cadfan, sef carreg ac arni'r ysgrifen gynharaf yn y Gymraeg. Hon yw prif drysor eglwys Cadfan. Credir fod y garreg yn dyddio i tua 800 ond mae'r ysgrifen o ddwy gyfnod, ac nid yw'r ysgrifen hŷn o'r un safon a'r ysgrifen mwy diweddar.[16] Defnyddiwyd Carreg Cadfan fel postyn llidiart ym Motalog hyd at 1761 pan symudwyd hi i tu fewn yr eglwys.[22] Mae cloc haul o gerrig, un o ddim ond dau sydd wedi goroesi o'r ddegfed canrif; a ddefnyddiwyd fel carreg filltir ar lwybr ar hyd y traeth o Aberdyfi. Gwelir yr ysgrifen "1 mile" yn eglur arno.[23] Mae cerrig eraill wedi cofnodi gan haneswyr ond maent wedi diflannu erbyn hyn, ond yr oedd eu bodolaeth yn dangos fod safle eglwys Tywyn yn hynafol iawn. Mae uchder y fynwent, mewn llefydd yn dwy fedr uwchben llawr yr eglwys yn tystio fod claddedigaethau wedi digwydd dros gyfnod hir.
-
Carreg Cadfan, yn eglwys Cadfan
-
Carreg Cadfan (tua 800 O.C.) yn eglwys Cadfan
Yr eglwys
[golygu | golygu cod]Eglwys o gerrig
[golygu | golygu cod]Teithiai pereinion at greiriau Cadfan ac yr oedd dŵr ffynnon Cadfan yn enwog am ei allu i iachäu. Tyfodd Tywyn yn glas digon cyfoethog i tynnu sylw y Llychlynwyr a chofnodir bod yr eglwys wedi ei llosgi ddwywaith, unwaith yn 963. Yn yr 11fed neu'r 12ed ganrif adeiladwyd eglwys o gerrig yn y dull Normanaidd, sydd wedi goroesi yn rhan o adeilad presennol Eglwys Sant Cadfan. Cyfansowydd y gerdd "Canu Cadfan" gan Llywelyn Fardd sy'n darlunio'r eglwys ac yn canmol ei gwychder, yn arbennig gwychder Creirfa Cadfan.[16] Mae'r gerdd yn awgrymu fod yr eglwys wedi ei chwblhau yn weddol fuan cyn llunio'r gerdd.[15] Mae maint y rhan sydd wedi goroesi, gyda'i cholofnau llydan cryf, yn dangos eglwys fwy o lawer nag eglwys plwyf arferol. Gellid cymharu eglwys Cadfan a chadeirlan Bangor yn yr Oesoedd Canol.[15]
Y Sistersiaid
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Abaty Sistersaidd Cymer yn 1198-9 ond yr oedd yr ugain milltir rhwng Tywyn a'r Cymer yn ddigon fel na chafodd sefydlu'r abaty effaith amlwg ar y clas yn Nhywyn.[15] O dan y tywysogion Cymreig parodd arferion yr eglwys Gymreig ochr yn ochr ag arferion yr eglwys Gatholig. Yn 1254 eglwys Cadfan oedd y gyfoethocaf ym Meirionnydd.[16] Deuai pererinion o bell. Yn ôl traddodiad arferai pererinion benlinio ac adrodd gweddïau wrth iddynt dod dros crib y bryncyn i'r de o'r eglwys a gweld yr eglwys. Gelwir y safle yn Bryn y Paderau hyd heddiw. Yn Oes y Tywysogion Tywyn oedd un o brif drefi cwmwd Ystumanner, cantref Meirionnydd.
Ar ôl y goresgyniad
[golygu | golygu cod]Yn 1284 ar ôl i Edward oresgyn Cymru ymwelodd John Peckham, Archesgob Caergaint, ag esgobaeth Bangor, gan gynnwys Tywyn.[15] Gwrthwynebai Peckham arferion Celtaidd yn chwyrn ac ar ôl ei ymweliad cwynodd am wisgoedd lliwgar y "mynaich" a'u gwallt hir heb donsur iawn ac am y ffaith eu bod yn yfed gormod. Galwodd eu gwragedd yn gordderchiaid gan fynnu eu bod yn gadael yn syth.[16] Cwynodd fod yr offeiriad yn anllythrennog ac am ddifyg effeitholrwydd eu gofal bugeiliol. Efallai nad oedd Lladin y clerigwyr yn ddigon da i wneud ddim ond adrodd gwasanaethau'r eglwys ond gan nad oeddent yn siarad Ffrangeg-Normanaidd a na deallai Peckham y Gymraeg, mae'n anodd gweld sail i'w feirniadaeth. Nodir bod gan blwyf Tywyn naw o denantiaid oedd yn talu trethu yn 1293; sy'n awgrymu lle weddol gyfoethog.[16] Ar ôl y goresgyniad newidiodd eglwys Cadfan o ganolfan addysgiadol clas Celtaidd i fod yn fam eglwys plwyf. Erbyn 1535 roedd capeli yn Llanfihangel-y-Pennant, Tal-y-llyn a Phennal yn perthyn i'r eglwys.[16] Parhaodd cyfoeth yr eglwys gyda phererinion yn dal i ymweld â chreirfa Cadfan a'i ffynnon. Mae dau gerflun o'r 14g yn yr eglwys sy'n tystio i'r cyfoeth a daeth yno. Mae un yn offeiriad dienw a'r llall yn filwr. Credir mai Gruffudd ab Adda, rhaglaw Ystumanner o 1331 i 1334, yw'r milwr.[24]
Trosglwyddwyd yr hawl i benodi rheithoriaid i esgobaethau yn Lloegr. Anaml iawn oedd y rhain yn byw yn y plwyf ond casglent elw'r eglwys iddynt eu hunain.[15] Fe ddylient fod wedi penodi ficeriaid ond nid oes tystiolaeth fod hyn wedi digwydd.
Y Diwygiad Mawr
[golygu | golygu cod]Mae'n annhebygol y cafodd y Diwygiad Protestannaidd lawer o effaith yn syth ar grefydd yn Nhywyn. Mae'n anodd dychmygu beth a fuasai'r effaith newid iaith addoliad o Ladin i Saesneg ar boblogaeth uniaith Gymraeg. Newid a fuasai'n cael mwy o ddylanwad oedd cyfieithu'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1567 a'r Beibl yn 1588 i'r Gymraeg [12] a gyda dyfodiad Gruffudd ap Morgan, ficer oedd yn byw yn y plwyf o 1570 i 1606[15], cafodd y werin gyfle i addoli yn eu iaith eu hunain. Parhaodd yr arfer o benodi rheithoriaid nad oeddent yn byw yn eu plwyfi ac aeth yr eglwys yn llai canolig i gred y werin. Cadwyd at hen draddodiadau ysbrydol ac ofergoelion. "Glynodd y bobl gyffredin am ganrifoedd wrth lawer o elfennau'r Hen Ffydd." [12] Parhaent i gynnau canhwyllau a gweddïo i'r saint ac yn Nhywyn buasai'r cof am Cadfan a'i dylwyth a pharch at ei ffynnon fel lle santaidd oedd yn iachusol wedi aros fel dylanwadau cryf.
Dirywiad ac adnewyddiad yr eglwys
[golygu | golygu cod]Dirywiodd yr eglwys gan fod rheithoriaid yn absennol. Yn 1692 syrthiodd y clochdy i lawr. Nid oedd arian gan y plwyf i ailadeiladu ac arhosodd yr eglwys yn rhannol agored i'r elfennau tan y 1730au pan godwyd treth ychwanegol at y trethi arferol (ar gyfer tlodion) i drwsio'r eglwys. Nid oes sicrwydd pryd y cwblhawyd y gwaith o drwsio'r to.[15] Dymchwelwyd y tŵr a safai ym mhen gorllewinol yr eglwys yn 1848[25] ac adnewyddwyd rhannau o'r eglwys yn y dull Fictoraidd yn 1881–4 [15]
Ystad Ynysymaengwyn
[golygu | golygu cod]Yr enw Corbet
[golygu | golygu cod]Disgynyddion Gruffudd ab Adda oedd perchnogion ystad Ynysymaengwyn [16] o'r Oesoedd Canol hyd at 1867. Daeth yr enw Corbet i Swydd Amwythig rywdro cyn 1086. Fel rheol, sillefir enw'r gangen o'r teulu a ddaeth i Dywyn ag un "t". Sefydlodd cangen deheuol y teulu yn Swydd Caerwrangon (oedd yn sillafu yr enw Corbett) erbyn 1158.[26] Daeth yr enw Corbet i'r ystad pan briododd Bridget, unig blentyn Elizabeth ferch Syr James Pryse o Gogerddan ac Elizabeth ferch Humphrey Wynn ap John Wynn o Ynysymaengwyn, â Robert (m. 1644), mab Syr Vincent Corbet o Moreton Corbet.[27] Er i'r ystad gael ei hetifeddu gan fenywod sawl gwaith wedi hynny rhoddwyd amod mewn ewyllysiau fod yr etifeddiaeth yn amodol ar ddefnydd o'r cyfenw Corbet gan eu gwŷr.
Dylanwad Ystad Ynysymaengwyn
[golygu | golygu cod]Y teulu mwyaf dylanwadol yn Nhywyn am ganrifoedd oedd Corbetiaid Ynysymaengwyn. Cawsant ddylanwad er lles trwy roddion elusennol ond er gwaeth wrth amgáu tiroedd comin. Roedd rhai fel Ann, aeres Robert Corbet a briododd Athelstan Owen, a Vincent Corbet, yn hael i'r tlodion gan roi elusendai i'r dref. Gelwid Henry Corbet, pechennog y stad rhwng 1774 a 1782, yn "Corbet the Good" am iddo fod yn hael i'r tlodion ac yn dirfeddiannwr da.[3] Etifeddwyd yr ystad gan ei frawd Edward. Roedd ef yn hoff o saethu adar a mynnai y dylai unrhyw beth a saethwyd ar yr ystad fynd i neuadd Ynysymaengwyn. Roedd hefyd yn hoff o rasys ceffylau a sefydlodd drac rasys ar y rhan o'r mofa a draeniwyd ganddo (gweler isod).[3] Ychwanegodd o leiaf saith o blant siawns i boblogaeth y dref.[28] Aeth y teulu yn fethdalwyr yn 1867. Prynwyd y stad yn 1882 gan John Corbett [3] (perthynas pell o gangen deheuol y teulu). Mae Gwesty'r Corbett (y Raven tan ail hanner y 19eg ganrif), Sgwar Corbett, Rhodfa Corbett, Ffordd Athelstan a Ffordd Warwig yn dal i bwysleisio'r cysyltiad â'r teulu.
Newid yr arfordir
[golygu | golygu cod]Aber afon Dysynni
[golygu | golygu cod]Hyd at diwedd y 18g roedd yn rhesymol galw Tywyn yn borthladd [3] gan fod y llanw yn cyrraedd y Gwaliau hyd 1809. Roedd cychod bychain yn dod â mewnforion yno. Un o'r mewnforion hyn oedd calch a bu nifer o odynau calch ar lan afon Dysynni. Dysgai pobl ifanc sut i nofio yn y lli o "geg y ffos" i'r Gwaliau.[3] Roedd iard adeiladu llongau ger y "Pil Ditych" gyferbyn y safle lle adeiladodd y Presbyteriaid eu capel cyntaf yn ymyl y Gwaliau.[3] Mor diweddar â 1886 bu trigolion Tywyn yn cofio llong a elwid y Debora yn cael ei hadeiladu ger Rhydygarnedd.[3] Roedd y corsydd o Pall Mall i'r môr yn dir comin i drigolion Tywyn. Cadwai'r werin anifeiliaid a dofednod yno a hela adar a physgota ond y defnydd pwysicaf oedd torri mawn ar gyfer tanau.[3] Bu'r tir comin yn bwysig hefyd fel man i gasglu gwartheg a defaid at ei gilydd cyn i'r porthmyn eu gyrru i Loegr. Gwelir dylanwad y porthmyn yn yr enwau Pall Mall, Picadili a'r White Hall wrth iddynt roi enwau o derfyn eu taith ar leoliadau ar ei chychwyn.
Draenio Corsydd Dysynni
[golygu | golygu cod]Pan etifeddodd Edward Corbet Ynysymaengwyn yn 1782, dechreuodd ddraenio y darn o'r corstir a oedd yn perthyn i'r ystad. Rhwng 1788 a 1784 newidiodd y corstir i dir oedd yn cynhyrchu gwair, trwy gloddio ffosydd a lledu calch. Cedwid y gost yn isel trwy ddal ati i ganiatáu i'r werin dorri mawn, cyhyd ag yr oeddent yn torri yn union lle dewisai ef; i ddyfnder a benodwyd ganddo ef a gan cadw'r ochrau yn syth. Fel hyn arbedodd gostau talu gweithwyr i agor y ffosydd.[15]
Yn gynnar yn y 19eg canrif trodd golygon Corbet tuag at y tiroedd comin. Yn 1805 honnodd dyn o'r enw Jackson ei fod wedi darganfod glo ym Mron Biban a pherswadiodd trigolion y dref i gyfnewid eu hawliau traddodiadol am addewid o lo rhad. Pasiwyd deddf i ganiatáu amgáu y tir comin yn 1805. Dechrauodd y gwaith draenio tua 1806. Adeiladwyd "Clawdd Swnd" yn 1809 a rwystrai'r llanw rhag cyrraedd y Gwaliau ac ardal helaith o'r corstir.[3] Wrth gwrs, ni daethpwyd o hyd i unrhyw lo. Honnodd Corbet nad oedd yn gwybod am y twyll ond gwnaeth elw mawr ohono.
Gweithwyr yn cydweithredu
[golygu | golygu cod]Penderfynodd y dynion a oedd yn torri'r ffosydd fod eu cyflog yn rhy fach. Trefnodd rhai ohonynt "Llythyr Crwn" ('round robin') i ofyn am godiad cyflog fel nad oedd neb yn gallu dioddef yn unigol gan ei fod wedi gofyn. Dywedir fod hwn yn un o'r enghreifftiau cyntaf o ddynion yn trefnu gyda'i gilydd i weithredu dros eu cyflogau a'u hawliau.[3] Rhannwyd y tir comin rhwng y prif tirfeddianwyr. Aeth 395 acer i un unigolyn, a 97 i un arall. Neilltuwyd 30 acer yn unig i'r Goron at ddefnydd y werin. Cafodd colli eu hawliau traddodiadol effaith difrifol ar y werin dlotaf. Yn 1795 talodd y plwyf gyfanswm o £177.10.3 i'r tlodion. Erbyn 1810 bu raid talu £545.10.9 [29]
Y corsydd deheuol
[golygu | golygu cod]Bu Llyn y Borth, y pwll islaw ffermdy Penllyn yn enwog am frithyll hyd at 1850 pan sefydlwydd y Felin Pair Mining Company gan taflu gwastraff o'r mwyngloddio i afon Dyffryn Gwyn gan ladd hwyaid, gwyddau a cheffyl yn ogystal â physgod.[3] Collodd y werin, a oedd wedi arfer pysgota gyda chewyll yn yr afon, gyflenwad arall o fwyd. Adeiladwyd "Clawdd llanw" i rwystro'r mor rhag lledu ar draws y gors a draeniwyd Llyn y Borth yn 1862.[3] Rhannwyd y corsydd rhwng y ffermydd o gwmpas y llyn a dechreuasant ar y gwaith o ddraenio'r corsydd a gwella'r tir.[30] Erbyn 1866 roedd rhannau o'r corstir yn addas at dyfu cnydau ond parhaodd y gwaith draenio tan o leiaf 1886.[30]
Cae Tir y Goron
[golygu | golygu cod]Pan brynnodd Ynysymaengwyn gan John Corbett yn 1882 hawliodd ef y tir a roddwyd i'r Goron fel ei eiddo ei hun.[29] Honnodd nad oedd neb wedi dweud wrtho cyn iddo brynu fod y tir yn dir comin a rhoddwyd y tir i'r ystad fel rhodd. Amgaeodd y tir er gwaethf map o 1805 a'r dystiolaeth fod y plwyfolion wedi defnyddio'r tir ers cyn cof a bod ganddynt hawliau hynafol.[29] Nid oedd y werin yn deall sut yr oedd Corbett, gŵr cyfoethog, yn medru cymryd eu hawliau traddodiadol oddi wrthynt. Roedd gweithred Corbett yn cymharu anffafriol â rhoddion cyfoethogion i greu parciau at ddefnydd y werin mewn trefi mawr.[3]
Tref Tywyn
[golygu | golygu cod]Tlodi
[golygu | golygu cod]Ar ôl y Diwigiad Mawr yr oedd Tywyn yn dref gymharol dlawd. Yn 1569 dywedwyd amdani: "Dessynine being a creek having no habitacion nor resorte and there is nother shippe nor botte that belongeth thereunto." Yn 1563 roedd 200 tŷ anedd yn y plwyf, heb gyfri'r rhai ym Mhennal, Tal-y-llyn a Llanfihangel-y-Pennat.[3]
Tywyn yn hanner cyntaf y 19eg ganrif
[golygu | golygu cod]Mae map o Dywyn o 1794 [31] yn dangos, heblaw am ychydig o fwthynnod unigol, nid oedd y dref wedi ymledu ymhellach na Stryd y Llew Coch, Sgwar Corbet, Stryd yr Eglwys, rhan o Stryd Maengwyn, rhan o'r Frankwell a rhan o Lôn yr Hwyaid (National Street) Mae'r hen efail, yr hen glyferdy a'r Porth Gwyn i gyd yn sefyll tu allan o'r dref. Mae map o 1836 [32] yn dangos ychydig o ehangu; mwy o fythynnod ar Stryd Maengwyn a'r Frankwell a bythynnod ar Llain y Clas (College Green) a Lôn yr Hwyaid (National St.) Yn 1851 yr oedd 208 tŷ yn y dref, 14 ohonynt yn wag a phoblogaeth o 341 gwryw a 466 menyw.[20]
Ar yr union adeg ag y collodd Tywyn angorfeydd yn aber Dysynni daeth Aberdyfi i'w hanterth fel porthladd.[33] Hwyliai llongau at eithafion y ddaear gydag allforion o lechi a mwynau a daeth nwyddau o bell i siopau Tywyn. Dechreuodd yr arfer o enwi siopau ar ôl llefydd pell. Mae London House, Stanley House a Somerset House yn dal i sefyll yn Stryd y Llew Coch.
Yn 1851 yr oedd siopau'r dref i gyd yn agos i'r eglwys. Mae modd cerdded, hyd heddiw o Sgwar Corbett ar hyd Stryd y Llew Coch ac yn ôl ar hyd Stryd yr Eglwys gan gweld nifer mawr o adeiladau lle mae'r ffrenestri wedi newid faint o beth sy'n addas i dŷ, i beth sy'n addas i siôp ac yn ôl. Mae'n enghraifft brin o dref o ganol y 19eg ganrif sydd heb diflannu o dan datblygiadau diweddarach.
Diwilliant
[golygu | golygu cod]Bu Tywyn yn enwog am ei beirdd a'i thelynorion (gweler y rhestr isod), Yn ogystal â diddanu'r uchelwyr, yr oedd awyrgylch bywiog yn y dref. Roedd Griffith Owen (1750–1833), a gadwai dafarn y Raven, yn delynor o fri a theulu Jonas yn enwog am ganu pennillion a dawnsio i gerddoriaeth y delyn.[3] Cynhelid Nosweithiau Llawen Ceiniog mewn rhai tafarndai.[3] Fel mewn llawer fan arall parodd adrodd nifer o ofergoelion. Roedd sawl hanes am ysbrydion yn yr ardal, yn bennaf yn Ynysymaengwyn [3] ond gyda dyfodiad Anghydffurfiaeth diflanodd rhain yn araf.
Gwelliannau
[golygu | golygu cod]Mae adroddiad ar gyflwr Tywyn, a oedd yn dilyn Deddf Iechyd 1850 yn darlunio dref afiach. Prin iawn oedd y tai gyda'u tŷ bach eu hun. Rhannai trigolion nifer o dai un tŷ bach fel arfer. Rhedai'r y dŵr brwnt i ffosydd ynghanol y strydoedd ac roedd pyllau o ddŵr drewllyd mewn sawn man. Safai tomennydd o wastraf, gwastraff bwyd, llwch o'r tannau a charthion yn agos at nifer o dai ac ychwanegai cytiau moch at y baw a'r drewdod. Roedd salwch yn gyffredin, yn enwedig ym misoedd yr haf oherwydd cyflwr afiach y dref.[34] Nododd yr adroddiad fod ystad Ynysmaengwyn, a oedd yn berchen ar rhan fwyaf y dref, ym meddiant plentyn o dan 21 oed ac yr oedd yr ymddiriedolwr naill yn analluog neu yn anfodlon i weithredu i wella'r sefyllfa.[34] Rhoddodd yr adroddiad argymellion i sefydlu cyflenwad o dŵr glân i dap ymhob tŷ ac i ddarparu pibau i gario dŵr brwnt i ffwrdd ym mhob stryd. Gorfodwyd perchnogion i adeiladu tai bach y tu cefn i'w tai a chysylltu piben o bob tŷ a phiben o bob tŷ bach gyda phrif piben gwastraff y stryd.[34]
Datblygiad
[golygu | golygu cod]Mae map o 1836 [32] yn dangos dechreuad yr hyn a elwid y "dref newydd" ychydig i'r gorllewin o'r hendref, ger ffermdy Penybryn. Cafodd y datblygiad hwn o ychydig fythynnod mewn terasau ddylanwad mawr ar sut yr ehangodd y dref pan leolwyd orsaf y rheilfford yn ymyl y "dref newydd". Yn lle dechrau yn y canol ac ymestyn allan, fel y rhan fwyaf o drefi, mae Stryd Fawr, Tywyn, wedi dechrau ar y ddau ben a daeth at ei gilydd dros gyfnod o flynyddoedd. Enwyd hen dai i'r gorllewin o'r dref yn Bryn y Môr a Phenybryn. Ger safle'r "dref newydd" mae rhes o dai, Bryn Mair gyda'r dyddiad 1892 arni a Bryn Awel gyda'r dyddiad 1897. Mae'r Assembly Room o 1893 yn yr hen dref. Rhwng yr hen dref a'r orsaf mae Neuadd y Farchnad, a adeiladwyd ar dir a roddwyd gan Corbett yn 1897, dwy siop o 1898 ger Cofeb Ail Ryfel y Boer o 1902, siop o 1903, a rhes o bedair siop yn Pretoria Building o 1901.[35] Caewyd y bylchau yn araf.
Anghydffurfiaeth
[golygu | golygu cod]Prin iawn oedd dylanwad Anghydffurfiaeth yn Nhywyn tan dechrau y 19eg canrif. Heblaw am nifer bychan o Annibynwyr [3] parhâi gweddill y poblogaeth i addoli yn eglwys Cadfan, gan gadw at rai arferion ac ofergoelion a oedd yn dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol.
Gwrthwynebiad Corbet
[golygu | golygu cod]Mae'n debyg fod gelyniaeth Edward Corbet tuag at Anghydffurfiaeth wedi peri i'r mudiad dyfu yn arafach yn Nhywyn nag mewn lleoedd eraill. Mae sawl hanes am ei wrthwynebiad.[3] Pan oedd Edward William, arweinydd y Methodistiaid cynnar, yn mynd o gwmpas y dref gyda chloch yn cyhoeddi cyfarfod, cymerodd Corbet y gloch o'i law gan ei fwrw ar ei foch. Cynigiodd Edward William y foch arall iddo ond ni cafodd ei fwrw yr ail waith.[3] Rhoddodd Corbet orchymyn i ysgraffwyr beidio â chludo pregethwyr Methodistaidd dros afon Dysynni ger Rhydygarnedd. Gwrthododd un ohonynt gludo tri phregethwr ar draws yr afon. Cymerasant gwch a dechrau croesi a'r ysgraffwr yn deu dilyn. Trawodd y pregethwr cyntaf ar ei foch; gwnaeth yr un peth i'r ail. Trodd y trydydd ato gan dweud fod troi dwy foch yn cael eu caniatàu yn yr Efengylau a dim mwy a rhoddodd y tri grasfa iddo. Dywedwyd bod gan yr ysgraffwr barch at y pregethwyr am weddill ei fywyd.[3]
Datblygiad
[golygu | golygu cod]Cafodd twf yr ysgolion cylchynol, oedd yn dysgu darllen Gymraeg er mwyn hybu darllen y Beibl, ddylanwad yn Nhywyn fel ar draws Cymru.[12] Cofrestrwyd yr ystafell ymgunnull uwchben Porth Gwyn ar gyfer pregethu yn 1795 a cynhaliodd y Methodistiaid eu hoedfaon cyntaf yno.[3] Dechreuodd Ysgol Sul y Presbyteriaid yn 1802, yr un Wesleaid yn 1807 a'r Annibynwyr yn 1813.[36] Cynhaliwyd Cymanfa Ysgolion Sul Cymru yn Nhywyn yn 1810.[37] Adeiladodd y Presbyteriaid eu hail gapel, Bethel, yn 1815 ac yn fuan wedyn cododd yr Annibynwyr gapel Bethesda. Wrth i anghydffurfiaeth gyfu ailadeiladwyd Bethel yn 1871[37] a Bethesda yn 1892. Roedd y Wesleiad yn cyfarfod yn yr hen gapel yn ymyl Stryd y Nant tan 1882 pan agorwyd capel Ebeneser. Sefydlodd y Beddyddwyr yn 1885 mewn ystafell ger Gwesty'r Corbett. Cynhaliwyd dau fedydd y flwyddyn honno, yn y môr. Agorodd eu capel presennol yn 1900.[38] Er gwaethaf yr holl bwyslais ar addysg Saesneg a'r agwedd wawdlyd at y Gymraeg yn y 19eg canrif; llwyddodd y capeli nid yn unig i fagu aelodau oedd yn deall eu ffydd ond hefyd i gynnal cymdeithas Gymraeg a'r gallu i darllen y Gymraeg.[39]
Darpariaeth Saesneg
[golygu | golygu cod]Dechreuodd y Presbyteriaid gynnal oedfaon Saesneg ym Mhorth Gwyn yn 1868 i ddarparu yn bennaf ar gyfer ymwelwyr di-Gymraeg ac agorodd capel Saesneg Bethany yn 1871.[40] Er i hyn dynnu adnoddau o gapel Bethel sicrhaodd barhad y Gymraeg fel unig iaith addoli yn y capel hwnnw.[37]
Treth y Degwm
[golygu | golygu cod]Gyda chynnydd yn nifer yr anghydffurfwyr daeth anfodlonrwydd ynghych hawl yr eglwys i ddegfed ran o gynnyrch y tir i'w anterth yn ystod ail hanner yr 1880au.[12] Roedd nifer helaeth o anghydffurfwyr yn gwrthod talu ac ymateb yr awdurdodau oedd atafaelu eiddo. Ym mhlwyf Tywyn gwrthododd un weddw unig dalu, nes bod popeth oedd ganddi wedi mynd ac eithrio un mochyn. Pan ddaeth swyddogion y treth i gasglu'r degwm, ni chymerwyd yr anifail; efallai oherwydd presenoldeb y dorf o gannoedd o bobl a oedd wedi ymgasglu. Dilynodd y dorf y swyddogion o un lle i'r llall, gan hwtian, sgrechian a chwythu cyrn nes gyrru'r swyddogion yn ôl at orsaf yr heddlu. Mewn cyfarfod o'r Anti Tithe League diolchodd yr arweinwyr am y synnwyr cyffredin a'r goddefgarwch yr oeddent wedi eu dangos ond gelwid y rhai a oedd wedi bradychu'r achos yn llyfrgwn.[41]
Y plygain
[golygu | golygu cod]Arferai Cymry o bob enwad fynychu gwasanaeth y plygain yn eglwys Cadfan ar fore'r Nadolig tan 1903. Mae Edward Edwards, aelod mor selog o gapel Bethel fel ei fod prin yn nodi'r Nadolig yn cofnodi yn 1876 "y ddau Rowland [ei fab a'i nai] yn y plygain bore" ac yn 1877 "Sarah [ei ferch] yn canu carol yn yr Eglwys efo Edward y Soldiar" [30] Dechreuodd yr anghydffurfwyr tdefnu oedfaon pregethu ar 25 Rhagfyr yn yr 1880au.[30] Tyfodd drwgdybiaeth o'r anglicaniad yn sgil Rhyfel y Degwm ac yr oedd agwedd rhai Saeson yn dirmygus. Disgrifiad un o'r teulu Kettle o'r oedfa plygain oedd "quite primitive enough to be striking" gyda "weird music" [42] Roedd agwedd y ficer at blant yr anghydffurfwyr yn sarhaus a phan gefnogodd y ficer werthiant alcohol[43] roedd yr anghydffurfwyr wedi cael digon. Nid aeth mwyafrif helaeth y Cymry anghydffurfiol i'r Plygain y flwyddyn honno.[44] Dechreuodd yr eglwysi anghydffurfiol gynnal cyfarfodydd pregethu undebol ar ddydd Nadolig.[37]
Diriwiad
[golygu | golygu cod]Erbyn 1935 roedd gweinidog Cymraeg yn gyfrifol am gapel y Bedyddwyr yn y gaeaf ond cymerai gweinidogion ar eu gwyliau gyfrifoldeb am oedfaon yr haf.[38] Trodd y capel yn raddol i'r Saesneg cyn cau yn 60au y ganrif ddiwethaf. Defnyddir yr adeilad gan Efengylwyr heddiw. Yn 1969, ar ôl defnyddio'rr hen gapel Wesle ger Stryd y Nant am 12 mlynedd, agorodd y Catholigion Eglwys Dewi. Caewyd capel Bethesda yn 2010[45] a chapel Bethany yn 2017.[46]
Addysg
[golygu | golygu cod]Addysg elusennol
[golygu | golygu cod]Rhwng colli'r clas yn 1284 a 1717 yr unig ddarpariaeth addysgol oedd naill i rieni drosglwyddo pa addysg bynnag a oedd ganddynt i'w plant neu drefniadau a wnaed gan unigolion i gyflogi rhywun i ddysgu medrau sylfaenol neu i deuloedd bonedd anfon eu plant i ffwrdd am addysg. Yn 1717 rhoddodd Vincent Corbet dir gyda'r amod fod yr elw yn cael ei ddefnyddio i ddarparu ysgol elusennol yn y plwyf. Yn 1786 rhoddodd Lady Moyer o Lundain arian at yr un diben.[3] Bu'n bosibl i rieni a oedd yn gallu talu anfon eu plant at yr ysgol hon ond maen tramgwydd i nifer oedd yr addysg grefyddol a ddysgwyd o safbwynt Anglicanaidd.
Ysgolion cylchynol ar ysgolion Sul
[golygu | golygu cod]Cafodd plant anghydffurfwyr addysg yn yr ysgolion cylchynol a sefydlwyd gan Gruffudd Jones a Bridget Bevan yn 1734.[12] Diben yr ysgolion hyn oedd dysgu darllen yr ysgrythurau a buont yn gweithredol yn Ystumanner fel mewn llefydd eraill yng Nghymru. Erbyn ail haner y 18fed canrif roedd Cymru yn un o'r gwledydd prin lle oedd y mwyafrif yn llythrennog. Dangosodd adroddiad ar addysg yn 1819 fod nifer o blant yn cael addysg mewn ysgolion Sul yn Nhywyn ac yr oedd ganddynt i gyd y gallu i darllen yr ysgruthurau.[36] Yn ychwanegol agorodd John Jones ysgol ym Mryncrug oedd yn arbenigo mewn dysgu morwriaeth, a ddenai ddisgyblion o bell.
Mudiadau addysg yn y 19eg Canrif
[golygu | golygu cod]Dechrauodd mudiadau Prydeinig elusennol i darparu y ysgolion ar dechrau y 19eg canrif. Yn 1808 dechreuodd "ysgolion Brutanaidd" oedd yn anenwadol. Yn 1811 sefydlodd y Gymdeithas Genedlaethol oedd yn dysgu crefydd o safbwynt Anglicanaidd.[12] Derbyniodd y "National School" yn Nhywyn yr arian o'r elusennau addysgiadol leol.[15] Dysgodd y plant trwy gyfrwng y Saesneg. Yn 1847 cyhoeddwyd adroddiad ar Addysg yng Nghymru a elwir "Brad y Llyfrau Gleision" a priodolodd pob math o ymddygiad "anfoesol" a "cyntefig" i fodolaeth yr iaith Gymraeg. Yn ystod yr 1860au defnyddid "Welsh Stick" (sef ffurf ar y Welsh Not) yn Ysgol Frutanaidd y dref er mwyn cosbi plant a ddaliwyd yn siarad Gymraeg.[47] Parhaodd yr agwedd hwn at y Gymraeg tan ganol yr ugainfed canrif.
Addysg dan Deddf Gwlad
[golygu | golygu cod]Pasiwyd Deddf Addysg yn 1870.[12] Sefydlwyd Byrddau Ysgol gyda'r grym i godi cyllid o drethi leol. Aeth yr Ysgol Frutanaidd (rhagflaenydd Ysgol Penybryn) yn rhan o'r drefn newydd ond gwrthododd y "National School" yn Nhywyn ymuno. Dirywiodd yn raddol a phan sefydlwyd Byrddau Addysg Lleol yn 1902 penderfynwyd nad oedd angen ddwy ysgol a chaewyd y "National School yn 1913.[15]
Ymwelwyr
[golygu | golygu cod]Mae Tywyn yn gyrchfan i ymwelwyr, neu bererinion, ers canrifoedd. Cyn dyfodiad y rheilffordd yr oedd yn llawer haws teithio ar y môr. Pan ddaeth teithio pleser yn ffasiynol gyda boneddigion yn hanner cyntaf y 19ed canrif daeth ymwelwyr i aros yn Ngwesty'r Corbett a'r Neptune Hall. Cyn 1850 roedd y dref yn adnabyddus am safon arbennig y pysgota.[3] Parhaodd ymweld â'r ffynnon yn ddi-dor tan ddiwedd y 19ed canrif. Yn 1868 ysgrifennwyd "The well is enclosed and fitted up with dressing places, being 12ft by nine it affords ample room for a plunging bath."[27]
Y rheilffordd
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y rheilffordd yn yr 1860au gyda'r cysylltiad o Dywyn i Fachynlleth yn cael ei gwblhau yn 1867.[48] Yn yr un blwyddyn cwblhaodd y "lein fach" i Abergynolwyn a chwareli llechi Nant Gwernol.yn haner olaf y 19ed canrif cafodd y dosbarth gweithiol dinesoedd mawr Lloegr yr hawl i gymryd gwyliau a tyfodd nifer yr ymwelwyr i Dywyn yn helaeth; ynghyd âr gwestai bach oedd yn darparu ar eu cyfer. Mynnodd rhai fod y rheilfordd wedi difetha awyrgych diarffordd ac arferion cyntefig y trigolion [3] ond mae'r farn hon yn anwybyddu dylanwad anghydffuriaeth.
Rhodfa'r Mor
[golygu | golygu cod]Y traeth oedd atyniad mwyaf Tywyn yn oes Fictoria.Yn 1877, ceisiwyd adeiladu pier yn Nhywyn. Ni oroesodd y gwaith fwy nag ychydig fisoedd, a phrin yw'r olion a adawyd ganddo.[49] Mae'r stryd 'Pier Road' (Ffordd y Traeth) hyd heddiw yn cynnig awgrym o'i leoliad. Gwelir brics sydd wedi troi yn grwyn gan symudiad y tonnau hyd heddiw. Adeiladwyd rhodfa ar lan y mor gan Corbett yn 1889.[50] Buasai'r rhodfa o'r fath hwn yn disgwylidig gan ymwelwyr Fictoriaid. Mae'r cyfleuster hyd heddiw gan ei fod yn darparu parcio am ddim yn agos iawn i'r traeth. Dymuna'r Cyngor Sir godi tâl am barcio ond rhoddodd Corbett y rhodfa i drigolion y dref sy'n gwrthwynebu tâl.
Dau ddyddiadur
[golygu | golygu cod]Mae dau ddyddiadur wedi goroesi o'r cyfnod Fictoraidd. Daeth rhai fel teulu Kettle i Dywyn [15] a chofnodwyd eu hatgofion. Mae'n anodd cysoni eu disgrifiadau hwy o Dywyn gyda'u agweddau ymerodraethol gyda phrofiadau pobl leol fel Edward Edwards a ysgrifennodd ddyddiadur o fywyd beunyddiol yr ardal rhwng 1873-1886 [30] a oedd yn byw eu bywydau'n llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae detholiad cynhwysfawr o gofnodion amaethyddol a hinsoddol Edwards i‘w gweld yma [1] ar wefan Prosiect Llên Natur.
Rheilffordd Talyllyn a Parc Cenedlaethol Eryri
[golygu | golygu cod]Caeodd Chwarel Llechi Nant y Gwernol yn 1946 ac o 1951 ymlaen rhedwyd Rheilffordd Talyllyn gan grŵp o wifoddolwyr. Agorodd Parc Cenedlaethol Eryri yn 1951. Mae Tywyn tu allan i'r Parc ond wedi amgylchynu ganddo.Mae agosrwydd y Parc a phresenoldeb y rheilffordd bach yn atyniadau i ymwelwyr. Wrth i safonau byw godi ar ôl yr Ail Rhyfel Byd ehangodd y ddarpariaeth ar gyfer carafanau ymwelwyr yn ddirfawr. Mae rheolau cantatâd cynllunio wedi tynhau ond mae nifer o gwersylloedd ar gyfer carafanau statig yn aros yn Nhywyn.
Yr Iaith Gymraeg
[golygu | golygu cod]Cymraeg oedd prif iaith Tywyn hyd at ganol yr 20g ac unig iaith y rhan fwyaf tan ddiwedd y 19eg ganrif.[51] Gwelir y Gymraeg yn enwau llefydd ym mro Dysynni ac mewn enwau strydoedd a tai (heblaw y rhai a newidiwyd yn diweddar. Parodd arferion Cymraeg fel defnyddio enw bedydd tad fel cyfenw a parhau i defnyddio enw tad ar fel cyfenw i wragedd ar ôl iddynt priodi hyd at ganol y 19eg canrif.[52] Hyd yn oed heddiw defnyddir enwau ffermydd yn lle cyfenwau yn Dail Dysynni, y papur bro lleol.
Cymraeg a Saesneg yn eglwys Cadfan
[golygu | golygu cod]O ganol y 19eg canrif daeth pwysau i defnyddio Saesneg "ar gyfer ymwelwyr.[15] Gellid gweld yr effaith yn eglwys Cadfan. Dwedodd un o deulu Kettle am yr eglwys yn y 1860au "It was a church for the Welsh then" er cynhaliwyd oedfa Saesneg ar gyfer ymwelwyr ar brynhawniau yn yr haf. Erbyn dechrau yr ugainfed canrif yr oedd oedfa Saesneg am 8 y.b. yn y Gymraeg am 10 y.b; yn Saesneg am 11 y.b a Cymraeg am 6 y.h.[53] Yn 1899 penderfynnodd cynnal oedfa "in Welsh and English."[54] a diriwiodd y defnydd o'r Gymraeg. Rhywbryd cyn 1932 diflanodd oedfaon Cymraeg yn llwyr. Ceisiodd Henry Thomas, y ficer newydd yn 1932 eu adfywio ond ni parodd yr ymdrech. Erbyn heddiw ni cynhelir gwasanaethau yn iaith Cadfan yn yr eglwys ble gwelir yr enghraifft cynharaf o ysgrifen Cymraeg.
Gwersyll y Morfa
[golygu | golygu cod]Sefydlodd Gwersyll y lluoedd arfog ar forfa Tywyn yn 1940. Mae rhai sy'n byw yn Nhywyn heddiw yn credu fod hwn oedd yr ergyd mwyaf i'r Gymraeg yn Nhywyn. Bu poblogaith uniaith Saesneg yna trw'r flwyddyn heb ddim parch at y Gymraeg. Daeth mwy o gwynion am ddifyg darpariaeth Saesneg.[15] Gadewodd y byddin yn 1969.[55] Roedd teimladau cymysg yn Nhywyn gan fod rhai o'r dref yn gweithio yn y Gwersyll. Parodd fel maes awyr am rhai blynyddoedd nes caewyd Gwersyll y Morfa yn llwyr yn 1999 [56] ond cafodd priodasau rhwng milwyr a Cymry leol a penderfyniad nifer i ymddeol i'r dref dylanwad ar y defnydd o'r Gymraeg.
Adfywiad
[golygu | golygu cod]Dechreuodd sefyllfa y Gymraeg wella yn y chwechdegau. Ers 1974 mae Cyngor Gwynedd wedi darparu gwasanaethau yn y Gymraeg ac mae'r iaith yn rhan hanfodol o addysg plant. Ers 1996 mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gweithredu polisi Cymraeg. Mae gwrthwynebiad i'r Gymraeg yn para mewn rhai lefydd. Pan agorwyd meddygfa leol newydd yn 2016, fel rhan o ddatblygiad yr Ysbyty Coffa, roedd pob arwydd a godwyd yn uniaith Saesneg. Gwrthododd y feddygfa gais gan Gomisiynydd y Gymraeg am arwyddion dwyieithog.[57]
Cofnododd Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001 fod 40.5% o boblogaeth Tywyn yn gallu'r Gymraeg. Yn 2010, nodwyd mewn adolygiad gan Estyn fod 11% o blant ysgol gynradd y dref yn dod o aelwydydd a oedd â'r Gymraeg yn brif iaith.[58]
Trigolion nodedig
[golygu | golygu cod]Mae cyswllt rhwng nifer o drigolion mwyaf nodedig y plwy ac Ynysymaengwyn, ystâd y bu i'w sgwïeiriaid ddominyddu'r dref o'r 14g hyd yr ugeinfed.
- Arthur ap Huw: Roedd 'Syr' Arthur ap Huw (a elwid weithiau yn Arthur Hughes)yn ŵyr i Hywel ap Siencyn ab Iorwerth o Ynysymaengwyn ac yn ficer eglwys Cadfan yn Nhywyn rhwng 1555 a'i farwolaeth yn 1570. Roedd hefyd yn noddwr nodedig i'r beirdd.[59] Fe'i cofir am ei gyfieithiad Cymraeg o destun gwrth-ddiwygiadol George Marshall, A Compendious Treatise in Metre (1554).[60]
- Dafydd Jones: Roedd nai Arthur ap Huw, David neu Dafydd Johns (a elwid weithiau'n David Jones neu David ap John, bl. 1572-98) yn ffigwr arall amlwg yn y Dadeni Dysg yng Nghymru.[61] Roedd yn or-or-ŵyr i Hywel ap Siencyn, ac fe gopïodd lawysgrif bwysig o gywyddau (Llyfrgell Brydeinig Additional MS 14866) sydd yn cynnwys nifer o gerddi i deulu Ynysymaengwyn.
- Edward Morgan: Ceir nifer o gerddi o'r 18g i'r teuluoedd Owen a Corbet o Ynysymaengwyn ac i'r Parchedig Edward Morgan.[62] Roedd Edward Morgan (m. 1749) yn frodor o Langelynnin, yn frawd i'r llenor ac ysgolhaig John Morgan (Matchin), ac yn ficer eglwys Cadfan o 1717; ef oedd un o berchnogion llawysgrif David Johns yn ystod rhan gyntaf y 18g.
- Griffith Hughes: Un o blwyf Tywyn oedd y Parchedig Griffith Hughes (1707–c.1758). Ef oedd awdur The Natural History of Barbados (1750), cyfrol sy'n cynnwys y disgrifiad cynharaf o'r grawnffrwyth.
- Ieuan Fardd: Roedd y Parch. Evan Evans (Ieuan Fardd) (1731–88) yn gurad eglwys Cadfan rhwng 1772 a 1777. Yn ystod ei gyfnod yn Nhywyn bu'n athro barddol ar David Richards (Dafydd Ionawr), (1752-1827), y bardd o Lanyrafon ger Bryn-crug.
- David Jones (Davydd Hael o Dowyn), (1768–1837): Un o Gymry Llundain a chefnogwr achosion a sefydliadau er budd Cymru. Fe'i ganed ar fferm Caethle.
- Evan Evans (Ap Ieuan, 1801-1882), o Dŷ Mawr; yn ffermwyr, yn bardd ac yn diwinydd. Bu ei fab, Gruffydd, yn gyfrifol am nifer o datblygiadau ym maes milfeddygaeth.
- Edward Jones: Yn 1826, cyhoeddodd Edward Jones o Dywyn Marwolaeth Abel, cyfieithiad o Der Tod Abels gan y bardd o'r Swistir, Solomon Gessner.
- Ceiriog: Roedd John Ceiriog Hughes ('Ceiriog', 1832–1887) yn rheolwr gorsaf yn Nhywyn am gyfnod byr o 1870.
- Glasynys: Ar 4 Ebrill, 1870, bu farw'r offeiriad, yr hynafiaethydd, yr awdur a'r bardd Owen Wynne Jones (Glasynys) (1828-1870) yn Nhywyn.
- Joseph David Hughes: Bu'r cerddor Joseph David Jones (1827–1870) yn ysgolfeistr yn Nhywyn am gyfnod, gan gwrdd â'i wraig yno. Yno hefyd y magwyd ei feibion rhwng 1870 a 1877, gan gynnwys Sir Henry Haydn Jones (1863-1950), a fu'n aelod seneddol ar Feirionnydd ac a dreuliodd bron y cyfan o'i oes yn byw yn y dref, a'r gweinidog nodedig gyda'r Annibynwyr yn Lloegr, John Daniel Jones (1865-1942).
- Tom Bradshaw, pêl-droediwr.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[63][64][65]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Smith, G. 2004, Tywyn Coastal Protection Scheme, Archiological Asessment, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd
- ↑ Kidson, C. 2009, mewn sgwrs
- ↑ 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 3.11 3.12 3.13 3.14 3.15 3.16 3.17 3.18 3.19 3.20 3.21 3.22 3.23 3.24 3.25 3.26 3.27 Anad, 1886, The history of Ystumanner, Copy of a paper read at a meeting of the Towyn Debating Society, Archifdy Meirionnydd, cyf. Z/M/4475
- ↑ Owen, Hywel Wyn; Morgan, Richard (2007). Dictionary of the Place-Names of Wales. Llandysul: Gomer. t. 483. ISBN 978-1-84323-901-7. OCLC 191731809.
- ↑ "Towyn neu Tywyn? 1968". YouTube. 17 May 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-24. Cyrchwyd 2024-09-07.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Plebiscite is next step in name battle". Liverpool Daily Post (Welsh Edition). 17 Mai 1968. t. 4.
- ↑ "Tywyn or Towyn – calls for a new referendum". Liverpool Daily Post (Welsh Edition). 13 Awst 1968. t. 4.
- ↑ "Y..o..y – the name is to stay Tywyn". Liverpool Daily Post (Welsh Edition). 8 Mai 1969. t. 4.
- ↑ Richards, Melville (1974). "Enwau Lleoedd". In Bowen, Geraint (gol.). Atlas Meirionnydd. Y Bala: Gwasg y Sir. t. 207.
- ↑ Wmffre, Iwan (2003). Language and place-names in Wales: the evidence of toponymy in Cardiganshire. Cardiff: University of Wales Press. tt. 334–5. ISBN 0-7083-1796-0. OCLC 52877170.
- ↑ Er enghraifft, yn enw cangen 'Towyn and Aberdovey' o'r Royal Air Forces Association.
- ↑ 12.0 12.1 12.2 12.3 12.4 12.5 12.6 12.7 12.8 Davies, J. 1990, Hanes Cymru, Penguin
- ↑ Ashe, G. 1968, The Quest for Arthur's Britain, Paladin
- ↑ 14.0 14.1 14.2 Brereton, T.D.2000, The Book of Welsh Saints, Glyndwr publishing
- ↑ 15.00 15.01 15.02 15.03 15.04 15.05 15.06 15.07 15.08 15.09 15.10 15.11 15.12 15.13 15.14 15.15 Gover, M. 2015, Cadfan's Church, Matador
- ↑ 16.0 16.1 16.2 16.3 16.4 16.5 16.6 16.7 Beverley-Smith, J a Ll, gol. History of Meirioneth,Vol 2 The Middle Ages, Gwasg Prifysgol Cymru
- ↑ Bowen, E.G.1969, Saints, Seaways and Settlements, Uni. of Wales
- ↑ 18.0 18.1 18.2 Bowen, E.G. 1954, The Settlement of the Celtic Saints in Wales, Uni. of Wales
- ↑ Fraser, D. 1966, Y Goresgynwyr, Gwasg Prifysgol Cymru
- ↑ 20.0 20.1 Cyfrifiad 1851
- ↑ Tomos, R. 2016, Dyddiadur Faenol Isaf, cyhoeddwyd yn Dail Dysynni, (papur bro)
- ↑ Y Dydd (papur newydd) 18.4.1941
- ↑ Cambrian News (papur newydd) 22.4.2010
- ↑ Eade, S, Slate Adits at Dolgoch, Archifdy Meirionnydd (heb dyddiad neu cyfeirnod)
- ↑ Royal Commision on Ancient Monuments in Wales. Archifdy Meirionnydd (heb dyddiad neu cyfeirnod)
- ↑ "Corbett_surname".[dolen farw]
- ↑ 27.0 27.1 Aberdovey Guide, 1868 Archifdy Meirionnydd, cyf. Z/M/620/1
- ↑ Cofrestrau Eglwys Cadfan, Archifdy Meirionnydd
- ↑ 29.0 29.1 29.2 Closing the Common (erthygl) Archifdy Meirionnydd, cyf Z/M/2862
- ↑ 30.0 30.1 30.2 30.3 30.4 Dyddiadur Edward Edwards 1873-1886, Archifdy Meirionnydd cyf. Z/M/3192/1
- ↑ Map, 1794, Archifdy Meirionnydd, Cyf.Z/M/3669
- ↑ 32.0 32.1 Map, 1836, Archifdy Meirionnydd, Cyf. Z/M/4261
- ↑ Morgan, D.W. 1948, Brief Glory, the Story of a Quest.
- ↑ 34.0 34.1 34.2 Clarke, G.T. 1850, Report to the General Board of Health, Clowes and Sons, Archifdy Meirionydd cyf.Z/M/4285/1
- ↑ Mae dyddiadau ar bob adeilad y cyfeirir ato.
- ↑ 36.0 36.1 The State of Education in Wales 1819, (adroddiad) Archifdy Meirionnydd (heb cyf.)
- ↑ 37.0 37.1 37.2 37.3 Jones, M. 1929, Ychydig o hanes Eglwys Bethel, Tywyn, Wynn-Williams
- ↑ 38.0 38.1 I.G.1960, The Baptist Church in Tywyn (pamffled) Archifdy Meirionnydd, (heb cyf.)
- ↑ Evans, G. 1971, Aros Mae.., John Penry.
- ↑ Hughes, H.W. 1960, A History of Bethany, Towyn. Archifdy Meirionnydd Z/M/4396
- ↑ Cambrian News, Erthygl 28.10.1938
- ↑ Anand, D, The Kettle Family Tree 1683-1984 Artists Valley Press
- ↑ Meirioneth County Times 30.4.1903
- ↑ Merioneth County Times 25.2.1904
- ↑ Awdur yn presennol yn y Cwrdd Eglwys pan penderfynodd cau y capel
- ↑ Hysbyseb tu allan i'r capel
- ↑ Archifdy Meirionnydd, Archifau Gwynedd, Llyfr Log Ysgol Brydeinig Towyn, Sir Feirionnydd, 1863-76[dolen farw], Casglu'r Tlysau: Y wefan ar gyfer treftadaeth a diwylliant Cymreig Archifwyd 2012-03-07 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Drummond, I, 2015, Rails along the Fathew, Holne.
- ↑ Wilkinson, Jeremy. 1984. Tywyn Pier. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd, 9.4, tt. 457-71.
- ↑ Carreg Coffa
- ↑ Cyfrifiad 1901
- ↑ Cofrestri Eglwys Cadfan
- ↑ The Parish of Towyn, 1914, pamffled yn Archifdy Meirionnydd heb cyfeirnod
- ↑ Merioneth County Times. 10.8.1899
- ↑ Cambrian News 2.11.1969
- ↑ Cambrian News 4.3.1999
- ↑ Llythyr ar rhan Comisiynydd y Gymraeg 5.9.2016, cyf. Cydnabod Pryder 340
- ↑ Williams, William Edwards. 2010. Adroddiad ar ansawdd addysg yn Ysgol Penybryn, Tywyn, Gwynedd[dolen farw], t. 1.
- ↑ Fychan, Cledwyn. 1979. Canu i wŷr eglwysig gorllewin Sir Ddinbych. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 28, p. 120.
- ↑ Bowen, Geraint. 1956. Arthur ap Huw Archifwyd 2015-10-27 yn y Peiriant Wayback. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 9.3, t. 376.
- ↑ (Saesneg) Roberts, Brynley F. (2004). "Johns, David (fl. 1572–1598)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/14987.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ Owen, Bob, 1962. Cipolwg ar Ynysymaengwyn. Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Meirionnydd, 4.2, tt. 97-118.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr