Owen Wynne Jones (Glasynys)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Owen Wynne Jones
Revd Owen Wynne Jones (Glasynys, 1828-70) NLW3365408 Cropped.jpg
Owen Wynne Jones (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Ganwyd 4 Mawrth 1828 Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Ebrill 1870 Edit this on Wikidata (42 oed)
Galwedigaeth bardd Edit this on Wikidata
Bedd Glasynys yn Eglwys Llandwrog lle'i claddwyd.

Bardd ac awdur oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 18284 Ebrill 1870). Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei eni yn Nhŷ'n y Ffrwd, Rhostryfan, plwyf Llanwnda, ger Caernarfon yn un o bum plentyn. Dechreuodd ei yrfa fel chwarelwr yn 10 oed ond yn ddiweddarach daeth yn athro ysgol yng Nghlynnog, Llanfachreth a Beddgelert. Ar ôl hynny cafodd ei urddo'n ddiacon a gwasanaethodd fel curad yn Llangristiolus a Llanfaethlu ym Môn gan orffen ei yrfa yn y De yn gurad Pontlotyn, Morgannwg. Bu farw yn Nhywyn, Meirionnydd.[1]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd nifer o lyfrau poblogaidd, yn cynnwys sawl casgliad o gerddi. Ceir ei waith orau yn ei ryddiaith sy'n cofnodi chwedlau llên gwerin ac arferion cefn gwlad Cymru; cyhoeddodd y rhain dan y ffugenw Salmon Llwyd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Fy Oriau Hamddenol (1854)
  • Lleucu Llwyd (1858)
  • Yr Wyddfa (1877)
  • Dafydd Llwyd (1857)
  • Dafydd Gruffydd, pa beth wyt ti yn ei feddwl o'r Ddwy Fil a'r dydd hwnnw? (1894)
  • Straeon Glasynys (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1943), golygwyd gan Saunders Lewis.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]