Martin o Tours

Oddi ar Wicipedia
Martin o Tours
Ganwyd316 Edit this on Wikidata
Szombathely Edit this on Wikidata
Bu farw8 Tachwedd 397 Edit this on Wikidata
Candes-Saint-Martin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, milwr, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Tours Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl11 Tachwedd Edit this on Wikidata
El Greco: Sant Martin a'r cardotyn

Sant ac Esgob Tours oedd Sant Martin o Tours (Lladin: Sanctus Martinus Turonensis; 316 - 8 Tachwedd 397). Ganed ef yn Savaria, Pannonia (Szombathely yn Hwngai heddiw). Roedd ei dad yn swyddog uchel yn y fyddin Rufeinig; yn ddiweddarach symundwud ef i Ticinum, Gallia Cisalpins (Pavia yn yr Eidal heddiw), lle magwyd Martin. Ymunodd a'r fyddin, a thua 334 roedd yn gwasanaethu yn Ambianensium civitas neu Samarobriva, Gâl (Amiens yn Ffrainc heddiw). Yno, roedd gyda'i filwyr ger porth y ddinas pan welodd gardotyn heb fawr o ddillad. Torrodd Martin ei fantell yn ei hanner, a rhoi un hanner i'r cardotyn. Y noson honno, cafodd weledigaeth mai Iesu Grist oedd y cardotyn. Yn ddiweddarach, aeth i Tours, lle daeth yn ddisgybl i Hilarius o Poitiers, ac yna bu'n byw fel meudwy ar yr Isola d'Albenga. Daeth yn Esgob Tours yn 371. Yn y Canol Oesoedd, daeth ei fedd yn ninas Tours yn gyrchfan boblogaidd i bererinion. Arferai brenhinoedd y Ffranciaid gario mantell Sant Martin (cappa yn Llanin, bychanigyn cappilla) o'u blaenau mewn brwydrau. Yr arferiad yma yw tarddiad y geiriau capel a caplan. Yng Nghymru, rhoddodd ei enw i bentref Castellmartin yn Sir Benfro.