Fairbourne

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Fairbourne
Fairbourne Village.jpg
Mathpentref, cyrchfan glan môr Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArthog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6969°N 4.0524°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH614130 Edit this on Wikidata
Cod postLL38 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref yn ne Gwynedd yw Fairbourne ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Yn anarferol iawn i bentrefi Gwynedd, nid oes enw Cymraeg arno. Defnyddir Friog weithiau fel enw Cymraeg Fairbourne, ond mewn gwirionedd mae Friog yn bentref ar wahân. Gelwid yr ardal yn "Morfa Henddol" cyn adeiladu'r pentref, a chredir fod yr enw Rowen wedi ei ddefnyddio am y pentref ar un adeg.

Saif Fairbourne yng nghymuned Arthog ar bwys y briffordd A493 rhwng Dolgellau a Thywyn. Mae ar ochr ddeheuol aber Afon Mawddach, gyferbyn a thref Abermaw. Sefydlwyd Fairbourne gan Arthur McDougall, o'r teulu oedd yn cynhyrchu blawd McDougall's, fel pentref gwyliau glan-y-môr.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Ceir olion yr Ail Ryfel Byd yn y tywynni traeth, amddiffyniadau i rwystro tanciau, a elwir "Dannedd y Ddraig" yn lleol.

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Rheilffordd y Friog

Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Glannau Cymru ac mae Rheilffordd y Friog yn arwain i'r de i gyfeiriad Tywyn. Gellir cael fferi dros yr afon i'r Bermo (Abermaw).

Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014