Cricieth
Math | tref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.917°N 4.2363°W ![]() |
Cod SYG | W04000059 ![]() |
Cod OS | SH505385 ![]() |
Cod post | LL52 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Tref hanesyddol a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Cricieth (weithiau Criccieth neu Crugiaeth yn Gymraeg yn ôl rhai awdurdodau, gan gynnwys y gwasanaeth croeso Archifwyd 2009-03-22 yn y Peiriant Wayback., a hefyd Criccieth yn Saesneg). Saif ar arfordir deheuol Eifionydd. Yn y 14g, mewn llythyr at Hywel y Fwyall, Ceidwad y Castell, "Cruciaith" oedd yr enw a ddefnyddiwyd.[1].
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2][3]
Saif amddiffynfa trawiadol Castell Cricieth fel cawr uwch y dref. Cyfeirnod OS: SH4968838012. Saif y dref 8km (5mill) i'r gorllewin o Borthmadog, 14 km (9mill) i'r dwyrain o Bwllheli a 27 km (17mill) i'r de o Gaernarfon. Roedd ganddi boblogaeth o tua 1,826 yn 2001.[4]
Enillodd y dref wobr Cymru yn ei Blodau yn 1999. Cynhelir cystadleuaeth Y Dyn Cryfa (am godi carreg fawr o flaen y Neuadd Goffa) yn flynyddol ym mis Mehefin
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynhanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwyddom fod yma bobl yn byw'n yr ardal yn yr Oes Efydd cynnar, fel y dengys siambr gladdu Cerrig Cae Dyni i'r dwyrain o'r dref. Ceir olion cwpannau Celtaidd, sef celfyddyd gynnar ar y saith carreg, sy'n beth hynod o anghyffredin.[5] Ganganorum Promontorium (Penrhyn y Gangani) oedd enw Ptolemy ar yr ardal; llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Gangani.
Oes y Tywysogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Codwyd y castell Cymreig hwn yn 1230 gan Lywelyn ab Iorwerth a reolodd yr ardal ers 1202; ond mae'r cofnodion ysgrifenedig yn nodi mai yn 1239 y'i codwyd, pan symudwyd pencadlys Eifionydd yma o Ddolbenmaen.
Tyfodd tref fechan wrth droed y Castell yn yr Oesoedd Canol.
Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghricieth ym 1975, ble'r enillodd Gerallt Lloyd Owen y gadair am ei awdl "Yr Afon".
Y tywydd yng Nghricieth[golygu | golygu cod y dudalen]
Hinsawdd Cricieth | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Mis | Ion | Chw | Maw | Ebr | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tac | Rha | Blwyddyn |
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) | 8.0 (46.4) |
8.0 (46.4) |
9.0 (48.2) |
11.0 (51.8) |
14.0 (57.2) |
17.0 (62.6) |
18.0 (64.4) |
19.0 (66.2) |
17.0 (62.6) |
14.0 (57.2) |
11.0 (51.8) |
9.0 (48.2) |
12.92 (55.25) |
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) | 3.0 (37.4) |
3.0 (37.4) |
4.0 (39.2) |
5.0 (41.0) |
8.0 (46.4) |
10.0 (50.0) |
12.0 (53.6) |
12.0 (53.6) |
11.0 (51.8) |
9.0 (48.2) |
6.0 (42.8) |
4.0 (39.2) |
7.25 (45.05) |
dyddodiad mm (modfeddi) | 83.8 (3.299) |
55.9 (2.201) |
66.0 (2.598) |
53.3 (2.098) |
48.3 (1.902) |
53.3 (2.098) |
53.3 (2.098) |
73.7 (2.902) |
73.7 (2.902) |
91.4 (3.598) |
99.1 (3.902) |
94.0 (3.701) |
845.8 (33.299) |
Source: [6] |
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwaith Iolo Goch, gol. D. R. Johnston (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988), cerdd rhif II.37
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Cyfrifiad 2001". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-22. Cyrchwyd 2012-03-21.
- ↑ "Gwefan Clifton Antiquarian Club; adalwyd 22/03/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-08. Cyrchwyd 2012-03-21.
- ↑ The Weather Channel : Criccieth Weather Adalwyd 2009-08-17
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw ·
Y Bala ·
Bethesda ·
Blaenau Ffestiniog ·
Caernarfon ·
Cricieth ·
Dolgellau ·
Harlech ·
Nefyn ·
Penrhyndeudraeth ·
Porthmadog ·
Pwllheli ·
Tywyn
Pentrefi
Aberangell ·
Aberdaron ·
Aberdesach ·
Aberdyfi ·
Abererch ·
Abergwyngregyn ·
Abergynolwyn ·
Aberllefenni ·
Abersoch ·
Afon Wen ·
Arthog ·
Beddgelert ·
Bethania ·
Bethel ·
Betws Garmon ·
Boduan ·
Y Bont-ddu ·
Bontnewydd (Arfon) ·
Bontnewydd (Meirionnydd) ·
Botwnnog ·
Brithdir ·
Bronaber ·
Bryncir ·
Bryncroes ·
Bryn-crug ·
Brynrefail ·
Bwlchtocyn ·
Caeathro ·
Carmel ·
Carneddi ·
Cefnddwysarn ·
Clynnog Fawr ·
Corris ·
Croesor ·
Crogen ·
Cwm-y-glo ·
Chwilog ·
Deiniolen ·
Dinas, Llanwnda ·
Dinas, Llŷn ·
Dinas Dinlle ·
Dinas Mawddwy ·
Dolbenmaen ·
Dolydd ·
Dyffryn Ardudwy ·
Edern ·
Efailnewydd ·
Fairbourne ·
Y Felinheli ·
Y Ffôr ·
Y Fron ·
Fron-goch ·
Ffestiniog ·
Ganllwyd ·
Garndolbenmaen ·
Garreg ·
Gellilydan ·
Glan-y-wern ·
Glasinfryn ·
Golan ·
Groeslon ·
Llanaber ·
Llanaelhaearn ·
Llanarmon ·
Llanbedr ·
Llanbedrog ·
Llanberis ·
Llandanwg ·
Llandecwyn ·
Llandegwning ·
Llandwrog ·
Llandygái ·
Llanddeiniolen ·
Llandderfel ·
Llanddwywe ·
Llanegryn ·
Llanenddwyn ·
Llanengan ·
Llanelltyd ·
Llanfachreth ·
Llanfaelrhys ·
Llanfaglan ·
Llanfair ·
Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) ·
Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) ·
Llanfihangel-y-traethau ·
Llanfor ·
Llanfrothen ·
Llangelynnin ·
Llangïan ·
Llangwnadl ·
Llwyngwril ·
Llangybi ·
Llangywer ·
Llaniestyn ·
Llanllechid ·
Llanllyfni ·
Llannor ·
Llanrug ·
Llanuwchllyn ·
Llanwnda ·
Llanymawddwy ·
Llanystumdwy ·
Llanycil ·
Llithfaen ·
Maentwrog ·
Mallwyd ·
Minffordd ·
Minllyn ·
Morfa Bychan ·
Morfa Nefyn ·
Mynydd Llandygái ·
Mynytho ·
Nantlle ·
Nantmor ·
Nant Peris ·
Nasareth ·
Nebo ·
Pant Glas ·
Penmorfa ·
Pennal ·
Penrhos ·
Penrhosgarnedd ·
Pen-sarn ·
Pentir ·
Pentrefelin ·
Pentre Gwynfryn ·
Pentreuchaf ·
Pen-y-groes ·
Pistyll ·
Pontllyfni ·
Portmeirion ·
Prenteg ·
Rachub ·
Y Rhiw ·
Rhiwlas ·
Rhos-fawr ·
Rhosgadfan ·
Rhoshirwaun ·
Rhoslan ·
Rhoslefain ·
Rhostryfan ·
Rhos-y-gwaliau ·
Rhyd ·
Rhyd-ddu ·
Rhyduchaf ·
Rhydyclafdy ·
Rhydymain ·
Sarnau ·
Sarn Mellteyrn ·
Saron ·
Sling ·
Soar ·
Talsarnau ·
Tal-y-bont, Abermaw ·
Tal-y-bont, Bangor ·
Tal-y-llyn ·
Talysarn ·
Tanygrisiau ·
Trawsfynydd ·
Treborth ·
Trefor ·
Tre-garth ·
Tremadog ·
Tudweiliog ·
Waunfawr