Gangani

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llwythau Cymru tua 48 O.C.. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.

Roedd y Gangani yn llwyth Celtaidd oedd a'u tiriogaeth ar benrhyn Llŷn, Gwynedd. Ychydig iawn a wyddis amdanynt, ond mae'n bosibl eu bod yn is-lwyth o'r Ordoficiaid. Crybwyllir y llwyth gan y daearyddwr Groegaidd Ptolemy, sy'n rhoi enw penrhyn Llŷn fel Ganganorum Promontorium (Penrhyn y Gangani). Mae Ptolemy'n cyfeirio at lwyth o'r un enw yng ngogledd-orllewin Iwerddon yn ogystal. Ni wyddom pa mor agos oedd y cysylltiad Gwyddelig, ond mae'n awgrymiadol gan fod y rhan hon o Gymru'n mwynhau perthynas agos gyda'r Gwyddelod yn yr Oesoedd Canol Cynnar (fel yn achos Dyfed yn y de-orllewin).

Efallai fod y gaer Rufeinig ym Mhen Llystyn yn nhiriogaeth y llwyth yma, efallai ar y ffin rhyngddynt hwy a'r Ordoficiaid i'r dwyrain. Rhedai ffordd Rufeinig trwy Ben Llystyn sy'n cysylltu Segontiwm, prif gaer y Rhufeiniaid yn y gogledd-orllewin, a Tomen y Mur (ger Trawsfynydd). Mae nifer o fryngeiri yn nhiriogaeth y llwyth, gan gynnwys Tre'r Ceiri rhwng Trefor a Nefyn, Carn Fadryn a Chastell Odo ym mhen eithaf Llŷn.


Sbiral triphlyg Llwythau Celtaidd Cymru Llwythau Celtaidd

Deceangli | Demetae | Gangani | Ordoficiaid | Silwriaid |

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid