Y diwylliant Hallstatt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig diweddar  
    Paleolithig canol
    Paleolithig cynnar
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Enwir y diwylliant Hallstatt ar ôl Hallstatt, pentref yn ardal Salzkammergut yn Awstria lle darganfuwyd mynwent gynhanesyddol enfawr oedd yn cynnwys 1045 o feddau. Fe'i darganfuwyd gan Ramsauer yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y bobl yn Hallstatt yn cloddio am halen o'r wythfed ganrif Cyn Crist hyd y bumed. Mae arddull y nwyddau yn y beddau yn nodedig iawn a cheir gwrthrychau o'r un arddull ledled Ewrop.

Beddroddau Hallstatt

Rhennir diwylliant Hallstatt yn Hallstatt Dwyreiniol a Hallstatt Gorllewinol. Mae tiriogaeth y diwyyllaint dwyreinol yn cynnwys Croatia, Slofenia, gorllewin Hwngari, Awstria, Morafia, a Slofacia, ac yn wahanol iawn i'r un gorllewinol sydd yn cynnwys yr Eidal, y Swistir, dwyrain Ffrainc, de'r Almaen, a Bohemia. Ond roedd diwylliant yn newid gyda'r canrifoedd, ac hefyd mewn canlyniad yr arfau, y crochenwaith a'r tlysau a gyplysir ag ef.

Gyda newidiadau mewn dulliau a symudiad poblogaeth ehangodd y diwylliant Hallstatt tua'r gorllewin: Penrhyn Iberia, Prydain ac Iwerddon. Mae'n debyg i o leiaf rhan o'r ymlediad hwn gael ei wneud gan bobl oedd yn siarad ieithoedd Celtaidd. Darganfuwyd crochenwaith du o Attica mewn beddau Hallstatt sy'n tystio i fasnach rhwng Gwlad Groeg a'r ardal Hallstatt, trwy Marseille, mae'n debyg. Nwyddau eraill a fewnforiwyd oedd ifori ac (efallai) gwin.

Pinau gwallt o'r cyfnod Hallstatt

Yn yr ardalodd Hallstatt canolog adeiladid beddau moethus iawn ar un cyfnod. Cleddid unigolion o statws uchel o dan twmwli enfawr ger bryngaerau, e.e. ym Magdalenenberg yn ne'r Almaen. Roedd llawer o'r beddau hyn yn cynnwys cerbydau rhyfel a ieuau ceffylau, er enghraift yn Bycí Skalá, Vix a Hochdorf, ond mae enghreifftiau yn Swydd Efrog yn Lloegr hefyd. Darganfuwyd model o gerbyd rhyfel wedi ei wneud o blwm mewn bedd yn Frögg, Carinthia.

Fel arfer, ceir gweithdai gofaint efydd, arian ac aur yng nghaerau'r cyfnod, er enghraifft yn yr Heuneburg ar Afon Donwy, Mont Lassois ger Chatillon-sur-Seine yn nwyrain Ffrainc ac yn Molpir yn y Weriniaeth Tsiec.

Mae celfyddyd y cyfnod yn cynnwys gemwaith wedi ei gwneud o efydd ac aur a cherfluniau wedi eu gwneud o garreg.

Ffynhonnell y testun Saesneg wreiddiol[golygu]

  • Vierrädrige Wagen der Hallstattzeit. RGZM Mainz, 1987.