Carinthia
| Math | talaith yn Awstria |
|---|---|
| Prifddinas | Klagenfurt am Wörthersee |
| Poblogaeth | 570,095 |
| Anthem | Kärntner Heimatlied |
| Pennaeth llywodraeth | Peter Kaiser |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Awstria |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 9,536.47 km² |
| Uwch y môr | 1,449 metr |
| Gerllaw | Afon Drava |
| Yn ffinio gyda | Salzburg, Tirol, Styria, Friuli-Venezia Giulia, Veneto |
| Cyfesurynnau | 46.7525°N 13.8617°E |
| AT-2 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Landtag of Carinthia |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | governor of Carinthia |
| Pennaeth y Llywodraeth | Peter Kaiser |
![]() | |
Talaith yn ne Awstria yw Carinthia (Almaeneg: Kärnten, Slofeneg: Koroška). Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 558,271. Prifddinas a dinas fwyaf y dalaith yw Klagenfurt, gyda phoblogaeth o 94,303.

Credir bod yr enw o darddiad Celtaidd, gyda dau awgrym posibl:[1]
- carant, "cyfaill", "perthynas" (cymharer "câr", "ceraint" yn Gymraeg).
- karanto, "carreg"
Mae Carinthia yn ffinio â'r Eidal a Slofenia, gyda thaleithiau Tirol, Salzburg a Styria. Ardal fynyddig yw, yn cynnwys rhan o'r Alpau dwyreiniol, ac mae copa uchaf Awstria, y Großglockner, ar y ffin rhwng Carinthia a'r Tirol. Rhennir y dalaith yn ddwy ddinas annibynnol (Statutarstädte) ac wyth ardal (Bezirke).
Dinasoedd annibynnol
[golygu | golygu cod]Ardaloedd
[golygu | golygu cod]Dwyieithrwydd
[golygu | golygu cod]
Ceir lleiafrif Slofeneg ei iaith mewn rhannau o'r dalaith, ac mae mudiad yn galw am arwyddion ffyrdd dwyieithog. Yn 1972, penderfynodd llywodraeth Bruno Kreisky a llywodraethwr Carinthia, Hans Sima, osod arwyddion dwyieithog mewn ardal yn Ne Carinthia, ond dinistriwyd hwy gan fudiadau adain-dde oedd yn gwrthwynebu dwyieithrwydd.
Yn 1977, penderfynodd y llywodraeth ffederal osod arwyddion dwyieithog ymhob cymuned lle'r oedd 25% neu fwy o'r boblogaeth yn siarad Slofeneg. Ni lwyddwyd i'w gosod ymhob un o'r rhain oherwydd gwrthwynebiad. Yn 2001, gorchymynwyd gosod arwyddion dwyieithog ym mhob cymuned lle'r oedd 10% o'r boblogaeth yn siarad Slofeneg, ond gwrthododd y llywodraethwr ar y pryd, Jörg Haider, wneud hynny.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Nodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ cf. H.D. Pohl, Kärnten - deutsche und slowenische Namen (Klagenfurt: Hermagoras, 2000), tt. 84f., 87-118.
| Taleithiau Awstria | |
|---|---|
| Awstria Isaf | Awstria Uchaf | Burgenland | Carinthia | Fienna| Salzburg | Styria | Tirol | Vorarlberg | |
