Awstria Uchaf
Gwedd
| Math | talaith yn Awstria |
|---|---|
| Prifddinas | Linz |
| Poblogaeth | 1,535,519 |
| Anthem | Hoamatgsang |
| Pennaeth llywodraeth | Thomas Stelzer |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Awstria |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 11,981.92 km², 11,982.64 km² |
| Uwch y môr | 343 metr |
| Yn ffinio gyda | Salzburg, Styria, Awstria Isaf, Bafaria, South Bohemian Region |
| Cyfesurynnau | 48.2°N 14°E |
| AT-4 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Landtag of Upper Austria |
| Pennaeth y Llywodraeth | Thomas Stelzer |
![]() | |
Talaith yng ngogledd Awstria yw Awstria Uchaf (Almaeneg: Oberösterreich). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,376,797. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Linz, gyda phoblogaeth o 186,298.

Hyd 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria dan yr enw Österreich ob der Enns. O 1938 hyd 1945, Oberdonau oedd ei henw. Mae'n ffinio a'r Almaen a Gweriniaeth Tsiec, a hefyd ar y taleithiau Awstria Isaf, Steiermark a Salzburg.
Rhennir y dalaith yn dair dinas annibynnol (Statutarstädte) a 15 ardal (Bezirke).
Mae gan Awstria Uchaf ddaerareg ddiddorol dros ben; gellir rhannu'r dalaith yn dair ardal o'r gogledd hyd y de:
- Rhanbarth Afon Y Felin, i'r ochr dde o Afon Donaw, gyda'i wenithfaen
- Min yr Alpau, tir gweunydd a choed, yn rhannol wastad ac yn rhannol fryniog
- Rhan o'r Alpau Awstria Uchaf.
Ceir dau lyn mawr: yr Attersee ac y Traunsee.
Dinasoedd annibynnol
[golygu | golygu cod]Ardaloedd
[golygu | golygu cod]- Braunau am Inn
- Eferding
- Freistadt
- Gmunden
- Grieskirchen
- Kirchdorf an der Krems
- Linz-Land
- Perg
- Ried im Innkreis
- Rohrbach
- Schärding
- Steyr-Land
- Urfahr-Umgebung
- Vöcklabruck
- Wels-Land
| Taleithiau Awstria | |
|---|---|
| Awstria Isaf | Awstria Uchaf | Burgenland | Carinthia | Fienna| Salzburg | Styria | Tirol | Vorarlberg | |
