Großglockner
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Hohe Tauern National Park ![]() |
Sir | Heiligenblut, Kals am Großglockner ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 3,798 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 47.0745°N 12.6938°E ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 2,428 metr ![]() |
Rhiant gopa | Königspitze ![]() |
Cadwyn fynydd | Glockner Group ![]() |
![]() | |
Y Großglockner yw mynydd uchaf Awstria, 3,798 medr uwch lefel y môr. Saif ym mynyddoedd yr Hohe Tauern, rhan o'r Alpau. Mae rhewlif y Pasterze yn tarddu ar ei lethrau. Saif ar y ffîn rhwng taleithiau Carinthia a Tirol.
Gellir cyrraedd y mynydd ar hyd y Großglockner Hochalpenstraße, sy'n arwain o Zell am See heibio Bruck i gyfeiriad Heiligenblut. Cyrhaeddwyd y copa am y tro cyntaf yn 1800, wedi i Franz Xaver von Salm-Reifferscheid, Esgob Gurk-Klagenfurt, drefnu ymgyrch fawr. Ar 28 Gorffennaf, cyrhaeddodd Sepp a Martin Klotz, Martin Reicher ac un person arall y copa, a'r diwrnod canlynol gosodwyd croes ar y copa.