Celtiberiaid

Oddi ar Wicipedia
Celtiberiaid
Enghraifft o'r canlynolgrwp ethnig hanesyddol Edit this on Wikidata
MathY Celtiaid, Iberiaid, Hispanic peoples Edit this on Wikidata
Yn cynnwysArevaci, Titii, Belli, Lusones, Pellendones, Berones Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Botorrita: Plât efydd gydag arysgrif.

Roedd y Celtiberiaid (neu Celt-Iberiaid) yn bobl sy'n cael eu crybwyll gan yr haneswyr Diodorus Siculus, Appian a Martial fel pobl oedd yn gymysgedd o Geltiaid ac Iberiaid; yn ôl Strabo yr elfen Geltaidd oedd gryfaf. Roeddynt yn byw ar Benrhyn Iberia, yn y rhan sy'n awr yn ganol a gogledd Sbaen a gogledd Portiwgal. Ffurfiwyd hwy pan ymfudodd Celtiaid o Gâl a chymysgu a'r bobl leol.

Mae tystiolaeth am yr iaith Geltibereg o'r ganrif gyntaf CC.. Credir fod Celtiaid yn bresennol yn Sbaen cyn gynhared a'r 6g CC, pan adeiladwyd y castros gyda muriau cerrig a ffosydd amddiffynnol. Mae'n debyg fod nifer o lwythau Celtiberaidd gwahanol; y llwyth cryfaf oedd yr Arevaci. Roedd eu canolfannau o gwmpas rhannau uchaf Afon Tagus ac Afon Douro, ac i'r dwyrain hyd Afon Ebro.

Yn yr Ail Ryfel Pwnig rhwng Carthago a Rhufain, Celtiberiaid oedd llawer o'r milwyr a groesodd yr Alpau gyda Hannibal i ymosod ar yr Eidal. Pan orchfygwyd y Carthaginiaid, bu raid i'r Celtiberiaid ymostwng i Rufain yn 195 CC ond bu mwy o ryfela yn y blynyddoedd nesaf. Cipiwyd dinas Numantia gan Scipio Aemilianus Africanus yn 133 CC. wedi gwarchae hir. Roedd rhai Celtiberiaid yn parhau i ymladd yn erbyn Rhufain yn rhyfel Sertorius, 79 - 72.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Antonio Arribas, The Iberians 1964.
  • Barry Cunliffe, 'Iberia and the Celtiberians' yn "The Ancient Celts" (Penguin Books, 1997), ISBN 0-14-025422-6
  • J. P. Mallory, In Search of the Indo-Europeans (Thames & Hudson, 1989), ISBN 0-500-05052-X
  • Alberto J. Lorrio a Gonzalo Ruiz Zapatero, "The Celts in Iberia: An Overview" yn e-Keltoi 6