Protohanes
Mae'r term rhaghanes[1] neu rag-hanes[2] yn cyfeirio at gyfnod sy'n gorwedd rhwng cynhanes a hanes ac yn fath o bont rhyngddynt. Diffinir y cyfnod yma fel yr amser pan nad oedd diwylliant neu wareiddiad wedi datblygu system ysgrifennu eto ond a gofnodir er hynny gan ddiwylliannau a gwareiddiadau eraill yn eu cofnodion ysgrifenedig eu hunain. Mae amseriad a hyd y cyfnod yn amrywio o ranbarth i ranbarth felly. Yng nghyd-destun Ewrop, gellid ystyried y Celtiaid a'r Germaniaid cynnar i fod yn wareiddiadau rhaghanesyddol pan ddechreuwyd eu cofnodi mewn ffynonellau Groeg a Rhufeinig.
Gall traddodiadau llafar gofnodi digwyddiadau cyn i wareiddiad ddod yn wareiddiad lythrennog hefyd.
Cyfnodau[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ei ffurf fwyaf elfennol, mae rhaghanes yn dilyn yr un gronoleg â rhannau olaf cynhanes:
- Oes y Copr (diwedd y Neolithig)
- Oes yr Efydd
- Oes yr Haearn
Pobloedd a gwareiddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Yr enghraifft glasurol o wareiddiadau rhaghanesyddol yw'r rheiny y cyfeirir atynt gan lenorion yr Henfyd, yn cynnwys:
- Alaniaid
- Bwlgariaid
- Celtiaid
- Daciaid
- Germaniaid
- Helfetiaid
- Hyniaid
- Magyariaid
- Numidiaid
- Parthiaid
- Sarmatiaid
- Sgythiaid
- Slafiaid
- Thraciaid
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cunliffe, Barry (2001). The Oxford Illustrated History of Prehistoric Europe. Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 978-0-19-285441-4.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, d.g. [protohistory].
- ↑ Porth Termau Cenedlaethol Cymru, d.g. proto-history.