Tre'r Ceiri
![]() | |
Math |
safle archaeolegol, caer lefal ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
564 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
52.9747°N 4.4238°W ![]() |
Cod OS |
SH37354465 ![]() |
![]() | |
Dynodwr Cadw |
CN028 ![]() |
Mae Tre'r Ceiri yn fryngaer Geltaidd o'r Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid ar y mwyaf dwyreiniol o dri chopa Yr Eifl, uwchben pentref Llanaelhaearn yn ardal penrhyn Llŷn, Gwynedd. Mae'n un o'r bryngeiri mwyaf trawiadol yng Nghymru a'r fryngaer Oes Haearn mwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[1] Mae arwynebedd y gaer oddeutu 2.5ha.[2] Cyfeirnod OS: SH372446.
Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r fryngaer yng ngofal Cadw, a gwnaed cryn dipyn o waith cynnal a chadw ar y muriau a'r llwybrau o amgylch y gaer yn y blynyddoedd diwethaf. Gellir cyrraedd Tre'r Ceiri trwy ddilyn y llwybr troed sy'n cychwyn ychydig uwchben Llanaelhaearn ar ochr y ffordd i Nefyn.
Amgylchynir y fryngaer gan furiau cerrig sydd yn dal o gryn uchder mewn mannau, hyd at 3 medr. Yn y rhannau lle mae'r amddiffynfeydd naturiol gryfaf mae'r mur yn un sengl, ond mewn rhannau eraill mae dau fur. Tu mewn i'r muriau mae gweddillion tua 150 o dai crwn. Bu cloddio yma yn 1956, a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau yn dyddio rhwng tua 150 O.C. a 400 O.C. Ymddengys felly fod y Rhufeiniaid wedi caniatau i'r llwyth lleol, y Gangani, ddefnyddio'r fryngaer.[3]
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN028.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhestr o fryngaerau Cymru
- Rhestr o fryngaerau Cymru yn ôl eu maint
- Cylchoedd cerrig
- Rhestr copaon Cymru
- Llwythau Celtaidd Cymru
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ Gwefan y BBC
- ↑ Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO).
- ↑ Cofrestr Cadw.