Mynydd Llandygái

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mynydd Llandygái
Mynydd Llandegai.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.1691°N 4.0958°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH603655 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Sian Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/au Hywel Williams (Plaid Cymru)

Pentref yng Ngwynedd yw Mynydd Llandygái ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd "Mynydd Llandegai"). Fe'i lleolir ger ffin Parc Cenedlaethol Eryri, rhwng Moelyci a'r Glyderau. Gwaun Gynfi yw'r enw ar y gweundir a adeiladwyd y pentref arno, ac ar y Waun sy'n weddill i'r gorllewin.

Mynydd Llandygái

Tyfodd y pentref tra roedd Chwarel y Penrhyn yn ei hanterth, ac mae presenoldeb y chwarel ac argae Gorsaf bŵer Dinorwig yn gwrthgyferbyn â thirlyn naturiol yr ardal o hyd.

Ffurfir calon y pentref gan ddwy stryd gyfochrog, Tan y Bwlch a Llwybr Main, a adeiladwyd ar gyfer chwarelwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llain hir o dir yn gysylltiedig â phob tŷ ar y ddwy stryd.

Mae gwasanaeth bws o'r pentref i Fethesda a Bangor, y trefi agosaf. Pentref cyfagos eraill yw Tregarth (i'r gogledd-ddwyrain) a Dinorwig (yr ochr draw i'r Waun a'r Bwlch i'r gorllewin). Lleolir yr ysgol gynradd lleol, Ysgol Bodfeurig, yn Sling rhwng Mynydd Llandygái a Thregarth.