Pentre Gwynfryn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pentre Gwynfryn
Pentre Gwynfryn.jpg
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.823°N 4.084°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH596270 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref bychan yn ardal Ardudwy, Gwynedd yw Pentre Gwynfryn ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir tua milltir i'r dwyrain o Lanbedr wrth gymer Afon Artro ac Afon Cwmnantcol.

Saif y pentref gwledig ar ffordd sy'n dringo o Lanbedr i gyfeiriad Cwm Nantcol a bryniau'r Rhinogau.

Daeth Capel Salem ym Mhentre Gwynfryn yn enwog diolch i'r paentiad adnabyddus gan Sydney Curnow Vosper o Siân Owen yn eistedd yn y capel yn ei siôl Gymreig. Cred rhai eu bod yn medru gweld llun y Diafol ym mhlygiadau'r siôl. Mae paentiad Capel Salem i'w gweld heddiw yn Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever (Lady Lever Art Gallery) yn Port Sunlight, Cilgwri, Lloegr.

Salem gan Sydney Curnow Vosper.
Y rhan honno o'r capel lle peintiwyd y llun enwog o Sian Owen, Tyn y Fawnog a'i siôl.
Capel Salem, Pentre Gwynfryn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014