Salem (y llun)

Oddi ar Wicipedia
Salem
Salem (1908).
ArlunyddSydney Curnow Vosper
Blwyddyn1908
MeunyddDyfrlliw ar bapur
Maint77 cm × 53 cm ×  (30 in × 21 in)
LleoliadOriel Gelf yr Arglwyddes Lever, Cilgwri

Darlun a baentiwyd gan Sydney Curnow Vosper ym 1908 yw Salem. Rhoddwyd y teitl Salem ar y llun gan mai golygfa o Gapel Salem, ym Mhentre Gwynfryn ydyw – tua milltir i'r dwyrain o Lanbedr wrth gymer Afon Artro ac Afon Cwmnantcol.

Mae'n ddarlun gan Sydney Curnow Vosper RWS, RWA (29 Hydref 1866 – 10 Gorffennaf 1942) o Siân Owen (1837–1927) o Dy’n-y-fawnog[1] yn eistedd yn y capel yn ei siôl Gymreig. Cred rhai eu bod yn medru gweld llun y Diafol ym mhlygiadau'r siôl. Mae paentiad Capel Salem i'w gweld heddiw yn Oriel Gelf yr Arglwyddes Lever (Lady Lever Art Gallery) yn Port Sunlight, Cilgwri, Lloegr.

Daeth y llun yn boblogaidd oherwydd y cysylltiad â sebon. Prynwyd y llun yn 1909 gan y diwydiannwr William Hesketh Lever am 100 gini. Defnyddiwyd y llun i hyrwyddo "Sunlight Soap". Daeth tocyn bychan am ddim gyda phob bar o sebon a gellid cyfnewid y tocynnau hyn am gopi o'r llun iawn[2] ac effaith hyn, wrth gwrs, oedd i lawer iawn o gartrefi dderbyn copi o'r llun – y llun cyntaf yn y rhan fwyaf o gartrefi.

Ail fersiwn[golygu | golygu cod]

Yn 1988 datgelodd rhaglen gylchgrawn S4C Hel Straeon fod fersiwn ychydig yn wahanol o'r llun yn bodoli, a beintiwyd ar gyfer brawd-yng-nghyfraith yr artist, Frank Treharne James. Roedd James wedi dotio ar y llun ac erfynodd i'r arlunydd baentio copi manwl iddo. Nid yw'r llun yn copi perffaith am fod rhai amrywiadau - nid oes cloc na rheilen ar gyfer cotiau a mae un cymeriad ar goll. Dilyswyd y fersiwn yma o'r llun gan awdurdod ar luniau Cymreig, Peter Lord.[3] Roedd y llun yn berchen i un o ddisgynyddion Frank James ac fe'i arddangoswyd am ychydig yng Nghastell Cyfarthfa yn 2002.[4]

Yn Medi 2019 roedd bwriad i werthu'r ail lun yma. Roedd cwmni Rogers Jones & Co am gynnwys y llun mewn ocsiwn yng Nghaerdydd ar 19 Hydref gydag amcan bris wedi ei osod rhwng £40,000 a £60,000. Er hynny, cyhoeddwyd ar 10 Hydref 2019 fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi prynu'r llun "ar ran y genedl" er bod manylion y cytundeb yn parhau yn breifat.[5][6]

Capel Salem fel ag y mae heddiw (2010)

Pareidolia[golygu | golygu cod]

Mae'r gred bod modd gweld y diafol yn y clogyn ac ellyll yn sipio drwy'r ffenestr, o bosib, yn un o’r enghreifftiau mwyaf eiconig o pareidolia Cymreig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (2008), s.v. "Salem"
  2. Gower, Jon (23 May 2002). "Salem exhibition visits castle". BBC.co.uk. Cyrchwyd 16 Hydref 2010.
  3. "Salem (1908)". National Museums Liverpool.
  4. Wyddoch chi fod yna ail Salem? , BBC Cymru Fyw, 5 Ebrill 2019. Cyrchwyd ar 10 Hydref 2019.
  5. Llyfrgell Genedlaethol yn prynu llun eiconig Salem , BBC News, 10 Hydref 2019.
  6. Llun ‘Salem’ wedi ei brynu gan y Llyfrgell Genedlaethol , Golwg360, 10 Hydref 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]