Afon Cwmnantcol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Cwmnantcol
Math afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.8207°N 4.0743°W Edit this on Wikidata

Afon yn ne Gwynedd yw Afon Cwmnantcol. Mae'n tarddu ym mryniau'r Rhinogau yn ardal Ardudwy ac yn llifo i Afon Artro ger Pentre Gwynfryn. Hyd: tua 6 milltir.

Llyn Perfeddau, rhwng Y Llethr a Rhinog Fach, yw prif darddle'r afon. Ymuna ffrwd arall ger Bwlch Drws Ardudwy ac wedyn mae'r afon yn llifo ar gwrs gorllewinol i lawr Cwm Nantcol, sy'n rhoi iddi ei henw. Tua milltir i lawr o Fwlch Drws Ardudwy mae'n llifo heibio ffermdy hen Maesygarnedd, cartref John Jones, Maesygarnedd (1597–1660), un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth y brenin Siarl I o Loegr a brawd-yng-nghyfraith i Oliver Cromwell, Arglwydd Amddiffynydd Lloegr.

Afon Cwmnantcol o Bont Cwmnantcol.

Mae'n cyrraedd ei chymer ar afon Artro ger gwarchodfa natur Coed Lletywalter, chwarter milltir i'r dwyrain o Bentre Gwynfryn, ar ôl llifo dan Bont Cwmnantcol sy'n cael ei chroesi gan y lôn sy'n dringo'r cwm.

WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato