Afon Artro
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 4 metr |
| Cyfesurynnau | 52.8617°N 4.0267°W |
| Tarddiad | Llyn Cwm Bychan |
| Aber | Môr Iwerddon |
![]() | |
Afon yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Artro. Mae ganddi hyd o 4.5 milltir (7 km). Mae'n llifo i mewn i Fae Ceredigion
Mae'r afon yn tarddu yn y Rhinogau, gyda nifer o nentydd yn llifo i Lyn Cwm Bychan. Wedi gadael y llyn, mae'r afon yn llifo tua'r de-orllewin i lawr Dyffryn Artro. Yn fuan ar ôl gadael y llyn, mae'r afon fechan o Lyn Eiddew-mawr yn ymuno â hi, yna, wedi mynd heibio gwarchodfa natur Coed Crafnant mae Afon Cwmnantcol yn ymuno â hi. Llifa tua'r gorllewin, drwy bentref Llanbedr cyn troi tua'r gogledd-orllewin i gyrraedd y môr ger Llandanwg.[1]
Pan gafodd cwmwd Ardudwy ei rannu'n ddau, Afon Artro oedd y ffin rhwng Ardudwy Uwch Artro ac Ardudwy Is Artro.
