Ardudwy Uwch Artro

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ardudwy Uwch Artro
Math Cwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.86°N 4.105°W Edit this on Wikidata

Cwmwd canoloesol ar lan ogleddol Bae Ceredigion yng ngogledd-orllewin Cymru oedd Ardudwy Uwch Artro. Gydag Ardudwy Is Artro, cafodd ei ffurfio allan o hen gantref Ardudwy.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dynodai Afon Artro y ffin rhwng Uwch Artro ac Is Artro i'r de. Y ffin naturiol yn y gogledd oedd y Traeth Mawr, Nant Gwynant a'r Moelwynion. Yn ogystal ag Is Artro, ffiniai'r cwmwd ag Eifionydd, darn deheuol o Arfon Is Gwyrfai (cantref Arfon) a Nant Conwy (cantref Arllechwedd) yn y gogledd, Uwch Tryweryn (cantref Penllyn) i'r dwyrain, a darn o gwmwd Tal-y-bont (cantref Meirionnydd) yn y de-ddwyrain.[1]

Cwmwd mynyddig, gyda bryniau creigiog y Rhinogydd yn ei ganol, oedd Uwch Artro. Harlech, sedd frenhinol Bendigeidfran yn y Mabinogi, oedd prif ganolfan y cwmwd.[1] Roedd y llannau yn cynnwys Llanfrothen, Maentwrog, Llandanwg a Llanfihangel-y-traethau. Roedd y plasdai yn niferus ac yn cynnwys Cynfal a Maesygarnedd. Yn ogystal â Chastell Harlech roedd yna gestyll eraill; Castell Prysor, Castell Deudraeth, a chastell mwnt a beili Tomen y Mur, safle hen gaer Rufeinig.

Yn fuan yn ei hanes daeth y diriogaeth yn rhan o Deyrnas Gwynedd a dan awdurdod eglwysig Esgobaeth Bangor. Daeth y cwmwd yn rhan o'r Sir Feirionnydd newydd fel rhan o drefniant Statud Rhuddlan yn 1282.[1] Heddiw mae'n gorwedd yn Ngwynedd.

Plwyfi[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn yr Oesoedd Canol Diweddar ceir naw plwyf yn y cwmwd:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Y Bala, ail argraffiad, 1975).