Neidio i'r cynnwys

Y Moelwynion

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Moelwynion)
Y Moelwynion
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.036°N 3.98°W Edit this on Wikidata
Map
Tan-y-grisiau dan lethrau'r Moelwynion

Grŵp o fynyddoedd yn Eryri yw'r Moelwynion. Cyfeiria'r enw yn enwedig at ddau fynydd ucha'r grŵp, Moelwyn Mawr (770m) a Moelwyn Bach (710m). Ceir nifer o hen chwareli llechfaen yn y bryniau hyn.

Mae'r mynyddoedd yn gorwedd rhwng Cwm Ffestiniog yn y dwyrain a Nant Gwynant yn y gorllewin. I'r de mae'r Traeth Mawr, rhwng Tremadog a Phenrhyndeudraeth ac i'r gogledd ceir ardal o ucheldir gwlyb a chreigiog sy'n eu cysylltu â Moel Siabod yn y gogledd ac yn disgyn i gyfeiriad Dyffryn Lledr a Dolwyddelan i'r gogledd-ddwyrain.

Traddodiad

[golygu | golygu cod]

Dywedir i Sant Twrog daflu maen anferth o ben y Moelwynion un tro. Glaniodd ym Maentwrog lle mae i'w gweld heddiw yng nghornel yr eglwys. Maen Twrog yw'r enw arno.

Copaon

[golygu | golygu cod]
y Moelwynion, Eryri
EnwCyfesurynnau OSCyfesurynnau Daearyddol
Carreg y Foel-gron:SH744427 map 52.966°N, 3.871°W
Foel Boeth (y Moelwynion):SH804477 map 53.013°N, 3.784°W
Foel-fras:SH728481 map 53.015°N, 3.897°W
Manod Bach:SH714447 map 52.984°N, 3.917°W
Manod Mawr:SH724446 map 52.983°N, 3.902°W
Manod Mawr (copa gogleddol):SH727458 map 52.994°N, 3.898°W
Moel Farlwyd:SH707486 map 53.019°N, 3.929°W
Moel Pen-y-bryn:SH779496 map 53.029°N, 3.822°W
Moel Penamnen:SH716483 map 53.016°N, 3.915°W
Pen y Bedw (copa dwyreiniol):SH784470 map 53.006°N, 3.813°W
Pen y Bedw (copa gorllewinol):SH779469 map 53.005°N, 3.821°W
Y Gamallt (Graig Goch):SH751447 map 52.985°N, 3.861°W
Y Garnedd:SH742431 map 52.97°N, 3.874°W
(Moel Gamallt):SH743440 map 52.978°N, 3.873°W
Y Ro Wen:SH745498 map 53.03°N, 3.872°W
Lleoliad y copaon: rhwng y Bermo, Betws-y-Coed a'r Bala

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato