Tal-y-bont (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tal-y-bont
Math Cwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.666°N 4.084°W Edit this on Wikidata

Un o ddau gwmwd cantref Meirionnydd oedd Tal-y-bont.

Gorweddai ar lan Bae Ceredigion yn hanner gogleddol y cantref gyda chwmwd Ystumanner i'r de. Dynodai afon Dysynni a ffrwd lai afon Cader, yn Nyffryn Dysynni, ac ysgwydd deheuol Cadair Idris y ffin rhwng y ddau gwmwd. I'r gogledd ffiniai ag Ardudwy gyda dyffryn Mawddach yn dynodi'r ffin (yn fras). I'r ddwyrain ffiniai â chwmwd Uwch Tryweryn yng nghantref Penllyn a chantref Cyfeiliog (cwmwd Mawddwy yn ddiweddarach).

Cadair Idris

Cwmwd mynyddig iawn oedd Tal-y-bont, gyda chadwyn hir Cadair Idris a'i fryniau yn ei ddominyddu. Gorweddai'r prif ganolfannau ar hyd yr arfordir, ar lan ddeheuol afon Mawddach, ac yn Nyffryn Dysynni.

Rhennid y cwmwd yn ddwy ran bur gwahanol, sef Is Cregennan ac Uwch Cregennan, yn gorwedd i'r gorllewin a'r dwyrain o Lynnau Cregennan. Yn Is Cregennan roedd y "trefi" canoloesol yn cynnwys Cregennan, Llwyngwril, Peniarth a Pennant. Yn Uwch Cregennan, rhwng llethrau gogleddol Cadair Idris a Mawddach, y canolfannau pwysicaf oedd Dolgellau, Nannau, Gwanas a Brithdir. Yn rhan o Uwch Cregennan ond yn gorwedd i'r gogledd oedd plwyf Llanfachraeth sy'n codi i 734m yn Rhobell Fawr.

Roedd yna ganolfannau eglwysig pwysig yn Llanegryn, Llanfendigaid, Llanfihangel y Pennant a Llanfachraith. Yn y 12g sefydlwyd Abaty Cymer (fymryn i'r gogledd o Ddolgellau) gan y Sistersiaid dan nawdd tywysogion Gwynedd. Perthynai'r cwmwd i Esgobaeth Bangor.

Fel gweddill y cantref, daeth Tal-y-bont yn rhan o Sir Feirionnydd yn 1284. Heddiw mae'n rhan o dde Gwynedd.

Plwyfi[golygu | golygu cod y dudalen]