Maesygarnedd
Math | ffermdy |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystad Maesygarnedd |
Lleoliad | Llanbedr |
Sir | Llanbedr |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 184.1 metr |
Cyfesurynnau | 52.822687°N 4.016423°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | 4768 |
Ffermdy traddodiadol yw Maesygarnedd (neu Maes-y-garnedd), sef man geni John Jones yn 1597, un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth Siarl I, brenin Lloegr a brawd-yng-nghyfraith Oliver Cromwell, Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr. Saif ym mhen pellaf Cwmnantcol, gyda'r Foel Wen (414m) i'r gogledd-orllewin, y Foel Ddu (477m) i'r gogledd, y Rhinogydd (720m) i'r dwyrain a mynydd Moelfre (589m) i'r de-orllewin. Cyfeirnod Grid yr OS: SH6420026920.[1] Tua 5 milltir i'r gorllewin mae Salem, Cefncymerau, Pentre Gwynfryn, y capel a ddarlunir yn y llun enwog Salem gan Sydney Curnow Vosper.
Ceir Bwlch Drws Ardudwy gerllaw, bwlch, sy'n gorwedd rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach; roedd y bwlch o bwysigrwydd mawr yn y Canol Oesoedd fel y cyswllt rhwng Ardudwy ar yr ochr orllewinol i'r Rhinogydd a'r ardaloedd i'r dwyrain.
Cofrestrwyd yr adeilad, a 4 o adeiladau amaethyddol eraill, gerllaw, gan Cadw:
- y prif dŷ o tua'r 1610au: 4768
- beudy, o'r 16g neu'r 17g, sydd mewn cyflwr da: 4768
- cwt peiriannau, ar ochr deheuol y tŷ: 81990
- dau gwt moch: 82011
- beudy / ysgubor maes, rhyw c250m i'r de-orllewin o'r ffermdy.
Yn ôl Cadw, disgrifiwyd y tŷ yn 'newydd' yn 1622, er y gall hyn olygu ei fod 'fel newydd'; mae'n bosib i'r ffermdy gael ei godi ar gyfer tad John Jones, sef Thomas ap John Ieuan ap Huw.[2]
John Jones
[golygu | golygu cod]- Prif: John Jones, Maesygarnedd
Oherwydd nad ef oedd y mab hynaf gyrrwyd ef i Lundain i wasanaethu teulu Myddleton. Priododd Margaret merch John Edwards, Stanstey.[3]
Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Lloegr, ymunodd John Jones â byddin y Senedd. Erbyn 1646 roedd yn ymladd yng ngogledd Cymru ym myddin Syr Thomas Mytton fel Cyrnol, a'r flwyddyn wedyn daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd.
Roedd yn aelod o'r cwrt a fu'n profi Siarl I ar ddiwedd yr ail Ryfel Cartref, ac roedd yn un o'r rhai a roddodd eu henwau ar warant marwolaeth y brenin.
Ym 1650 aeth i Iwerddon yn brif gomisiynydd i weinyddu'r wlad, ac yn 1655 gwnaed ef yn gomisiynydd dros ogledd Cymru. Roedd ei wraig gyntaf wedi marw yn yr Iwerddon y 1651, ac y 1656 ail-briododd a Katherine, chwaer Oliver Cromwell.[4]
Yn dilyn marwolaeth Cromwell ac ymddiswyddiad ei fab Richard Cromwell, fe gymerwyd John Jones yn garcharor yn 1660. Fe'i cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth, a chafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru yn Llundain ar 17 Hydref 1660.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Coflein; adalwyd 19 Mai 2024.
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; gwefan British listed Buildings; adalwyd 19 Mai 2024.
- ↑ J. Graham Jones (1998). The History of Wales (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 70. ISBN 978-0-7083-1491-3.
- ↑ Arthur Herbert Dodd. "Jones, John, Maesygarnedd, Sir Feirionnydd, a'i deulu, 'y brenin-leiddiad'". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2021.